Galw ar ddisgyblion a rhieni i gael hyder yn y system raddio addysg

Galw ar ddisgyblion a rhieni i gael hyder yn y system raddio addysg
Yn ei gyfweliad cyntaf fel Gweinidog Addysg newydd Llywodraeth Cymru, mae Jeremy Miles wedi galw ar ddisgyblion a rhieni i gael hyder yn y ffordd mae graddau'n cael eu pennu.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu canslo arholiadau, gan adael i ysgolion a cholegau wneud y penderfyniad ar raddau TGAU a Safon Uwch yn 2021.
Wrth egluro'r system newydd o raddio disgyblion yng Nghymru wrth raglen Newyddion s4c, dywedodd y Gweinidog y byddai'r drefn newydd gallu "adlewyrchu amgylchiadau'r ysgol".
"Dylse gael hyder oherwydd beth i ni'n neud eleni yw cario'r egwyddor a wireddwyd flwyddyn ddiwetha'," meddai.
"Hynny yw, bo ni'n gofyn i athrawon ddefnyddio'u penderfyniadau proffesiynol nhw am safonau eu dysgwyr nhw, a neud hynny ar sail ystod o dystiolaeth wrth gwrs a ma'n hyblygrwydd yn y system i sicrhau bod y dystiolaeth yn gallu adlewyrchu amgylchiadau'r ysgol, amgylchiadau dysgwyr unigol o ran tecwch.
"Ac rwy'n credu wrth gael ffydd ym mhenderfyniadau proffesiynol athrawon sydd wrth ganol hyn, mae hynny'n rhoi cysur a hyder i bobl yn y system."