Lansio ap newydd i 'fagu hyder' wrth siarad Cymraeg
Lansio ap newydd i 'fagu hyder' wrth siarad Cymraeg
Mae cwmni GoLingo wedi lansio ap newydd er mwyn annog pobl i ymarfer siarad Cymraeg.
Mae’r ap, sy’n rhad ac am ddim, yn gosod y defnyddiwr mewn tref rithwir sy'n cynnwys lleoliadau fel bwytai, tafarndai a siopau.
Y bwriad yw bod y defnyddiwr yn teithio o le i le, ac yn sgwrsio gyda’r ap trwy’r Gymraeg.
Yr ap fydd yn dechrau’r sgwrs ac yna fe fydd yn rhaid i'r defnyddiwr ymateb trwy siarad Cymraeg cywir. Mae'r ap yn rhoi sgôr am gywirdeb ac ynganiad.
Yn ôl NiaRichardson, Swyddog Marchnata GoLingo, mae’r ap “am roi hyder i bobl siarad Cymraeg."
“Mae lot o bobl yn byw mewn ardaloedd di-Gymraeg, neu ma rhai ddim hyd yn oed yn byw yng Nghymru lle dydy nhw ddim yn cael cyfle i siarad yr iaith.
“Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw bractisio ynganu, a dod a’i hyder nhw i siarad.
“Mae o’n ffordd wahanol o ddysgu iaith a dwi’n meddwl y mwyaf o ffyrdd gwahanol sydd gen ti o ddysgu iaith, y gore byd” dywedodd Nia.
'Hwyl'
Mae Nia yn gobeithio y bydd yr ap yn annog mwy o ddysgwyr Cymraeg yn sgil targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Er bod yr ap yn targedu oedolion, dywedodd Nia Richardson mai'r gobaith yw i ddatblygu’r cynnwys fel ei fod yn addas ar gyfer ysgolion hefyd.
“Ma na bosibilrwydd i'w ddefnyddio mewn ysgolion hefyd achos efo plant ma rhywbeth fel na yn lot mwy o hwyl i'w neud.
“Ma’ na peilot Sbaeneg yn rhedeg ar hyn o bryd, o fewn ysgol uwchradd i weld sut all yr ap helpu’r byd addysg” dywedodd.
Mae'r ap eisoes yn cynnig sgyrsiau trwy gyfrwng yr Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg a'r Eidaleg.

