Newyddion S4C

Mam yn galw am ddedfrydau llymach yn dilyn llofruddiaeth ei merch

27/03/2023
Ellie Gould

Mae mam wedi galw am ddedfrydau llymach wedi i lofrudd ei merch gael ei ddedfrydu i 12 mlynedd a hanner.

Cafodd merch Carole Gould, Ellie Gould, ei thrywanu a’i lladd yn 17 mlwydd oed gan Thomas Griffiths, oedd hefyd yn 17 oed ar y pryd.

Mae'r fam wedi galw am fan cychwyn o 25 mlynedd am ddedfrydau sy'n ymwneud â 'gorladdiad' (overkill).

Cafodd Ellie, o Calne yn ne ne orllewin Lloegr ei thagu, a chafodd ei thrywanu o leiaf 13 o weithiau gan Thomas Griffiths. Yna fe drefnodd yr olygfa i ymddangos fel pe bai Ellie wedi ei niweidio ei hun.

Mae’r math yma o lofruddiaeth yn cael ei galw yn ‘orladdiad' am ei bod yn cynnwys trais gormodol.

Yn gynharach yn y mis cyhoeddodd Lywodraeth y DU gynlluniau am ddedfrydau llymach er mwyn cosbi llofruddion gyda hanes o ymddygiad sarhaus yn erbyn eu dioddefwyr, gan gynnwys achosion o orladdiad.

Bydd y gyfraith yn cael ei newid ar ôl argymhellion a wnaed gan Clare Wade KC mewn adolygiad annibynnol. Cafodd ei gomisiynu yn 2021 ac roedd yn edrych ar achosion o ddedfrydu dynladdiad domestig. 

‘Heb wneud digon eto’

Dywedodd Carole Gould, a gydsefydlodd y mudiad ymgyrchu Killed Women: “Cyrhaeddodd fy ngŵr adref gan weld ei ferch annwyl mewn pwll o waed ar lawr ein cegin.

“Mae'n erchyll. A'r ddedfryd am hynny yw 12 mlynedd a hanner - 12 mlynedd a hanner am lofruddiaeth greulon ein merch werthfawr. 

“Dyna yw’r system gyfiawnder pan ddaw i greulondeb yn erbyn menywod a merched,” meddai. 

“O ganlyniad i adolygiad Clare Wade, rydym yn gobeithio sicrhau dedfrydau llawer llymach a’r hyn byddwn i’n ei dweud wrth y Llywodraeth a Dominic Raab yw: dydych chi ddim wedi gwneud digon eto.”

Yn gynharach y mis dywedodd Mr Raab: “Bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn menywod a chadw eu hymosodwyr yn y carchar am hirach. 

“Bydd y newidiadau ydw i’n eu cyhoeddi heddiw yn golygu dedfrydau carchar hirach i’r rhai sy’n lladd menywod yn y cartref drwy roi mwy o ystyriaeth i’r ffactorau penodol sydd yn eu heffeithio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.