Newyddion S4C

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud tro pedol ar ddyddiau cystadlaethau corawl

S4C

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi gwneud tro pedol ar ddyddiau cystadlaethau corawl ar gyfer y Brifwyl yn Llŷn ac Eifionydd eleni.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd yr Eisteddfod: "Yng nghyfarfod Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol nos Iau 23 Mawrth, ac yn sgil yr ymateb i’r cyhoeddiadau am y newidiadau i’r cystadlaethau eleni, mae’r Eisteddfod wedi edrych ar yr amserlen eto, ac wedi symud y cystadlaethau corawl i gyd yn ôl i’r dyddiau sy’n draddodiadol ar gyfer y cystadlaethau hyn dros y blynyddoedd diwethaf."

Cyhoeddodd yr Eisteddfod ddydd Mawrth y byddai "nifer o welliannau" yn cael eu gwneud i'r Brifwyl, gan gynnwys cynnal rhai cystadlaethau torfol ar ddyddiau gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf. 

Er hyn, roedd nifer wedi eu cythruddo gan y penderfyniad, gan ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol fod "cannoedd o bobl wedi gwneud trefniadau gwesty a nawr yn gorfod aros i weld oes angen canslo ac ail-fwcio". 

Ychwanegodd un arall fod "corau wedi trefnu llety, trafnidiaeth i'r gystadleuaeth ar y Sadwrn cyntaf! Dim llety ar gael nawr i ddiwedd yr wythnos ag aelodau methu cael amser bant o'u gwaith."

Fe wnaeth 37 o gorau anfon llythyr plaen at yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, yn dweud bod newid y rheolau ym maes cystadlu corawl eleni yn dangos "amarch llwyr" at gystadleuwyr mwyaf brwd y Brifwyl.

Mae Newyddion S4C ar ddeall fod y corau tu ôl i'r llythyr yn bwriadu cyfarfod ddechrau'r wythnos i drafod eu hymateb i'r tro pedol.

'Dim newid'

Ychwanegodd yr Eisteddfod ddydd Sadwrn eu bod yn derbyn nad oedd y newidiadau yn "apelio at nifer o gorau ac yn gwerthfawrogi hyn, ac felly ni fydd unrhyw newid i ddyddiau’r cystadlaethau corawl eleni."

Mae hyn yn golygu y bydd y cystadlaethau yn cael eu cynnal ar y dyddiau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 5 Awst: Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru
  • Dydd Sul 6 Awst: Côr Sioe
  • Dydd Mawrth 8 Awst: Côr i rai 60 oed a throsodd
  • Dydd Mercher 9 Awst: Côr Ieuenctid o dan 25 oed
  • Dydd Iau 10 Awst: Côr Soprano | Alto
  • Dydd Gwener 11 Awst: Côr Cymysg
  • Dydd Sadwrn 12 Awst: Côr Tenor | Bas

 

Cyhoeddodd yr Eisteddfod hefyd y bydd dwy ganolfan gystadlu lai o faint yn disodli'r pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Bydd un yn dal hyd at 1200 o bobl, a'r llall â lle i hyd at 500 o bobl.

Yn ogystal, dim ond tri chôr neu barti fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.

Yn ystod eisteddfodau'r gorffennol, gyda rhai cystadlaethau torfol fel y corau, roedd pob cystadleuydd yn ymddangos ar lwyfan pafiliwn y Brifwyl.

Bydd y rhaglen cystadlu yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth. 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan rhwng 5 a 12 Awst eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.