Newyddion S4C

Plac porffor yn dathlu cyfraniad menyw ddu am y tro cyntaf

patti.jpg

Bydd plac porffor sy'n dathlu bywydau menywod yng Nghymru yn cael ei gyflwyno er cof am fenyw ddu am y tro cyntaf.

Cafodd ymgyrch y plac porffor ei chreu er mwyn gwella cydnabyddiaeth i "ferched arbennig yng Nghymru."

Bydd y wobr yn cael ei rhoi eleni i Patti Flynn, a oedd yn ymgyrchydd a pherfformwraig. 

Fe wnaeth Ms Flynn sicrhau cofeb ar gyfer milwyr du yn dilyn ymgyrch 26 mlynedd wedi iddi golli ei thad a'i brodyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Bu farw Ms Flynn yn 2020, ond fe wnaeth ei mab Michael groesawu'r wobr er cof am ei fam, gan ddweud ei bod hi'n "ddynes falch iawn ac fe ddywedodd hi nad ydych chi fel yr ydych chi'n edrych- yr hyn rydych chi'n ei wneud sy'n eich gwneud chi'n arbennig."

Cafodd Patti Flynn ei geni yn ardal Tiger Bay yn nociau Caerdydd cyn mynd ymlaen i fod yn gantores jas, awdures, model, actores ac ymgyrchydd.

Yn 2017, cafodd ei anrhydeddu fel un o sefydlwyr Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Unigryw

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Hil Cymru, yr Athro Uzo Iwobi, fod "Patti yn unigryw, roedd ei chariad at jas a cherddoriaeth yn ei gwneud yn wahanol a dwi'n gwybod y bydd hi'n parhau i fyw drwy ei phlant, ei wyrion a'r holl genedlaethau i ddod."

Ychwanegodd cadeirydd Purple Plaques Wales, Sue Evans, fod "Placiau Porffor wrth eu bodd yn dathlu Patti fel dynes hollol anhygoel ac rydym ni'n falch iawn o weithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a theulu Patti i sicrhau y bydd ei chyfraniad yn cael ei gofio drwy gael Plac Porffor i bawb i weld."

Llun: Gwefan Hanes Pobl Dduon Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.