Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n ddydd Gwener 21 Mai, ac yn amser am olwg sydyn ar rai o'r prif straeon ar hafan Newyddion S4C, o Gymru a thu hwnt.
Mark Drakeford yn beirniadu anhrefn ardal Mayhill o Abertawe
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi beirniadu'r golygfeydd o anhrefn yn Abertawe nos Iau. Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i achos o anhrefn yn ardal Mayhill o'r ddinas. Cafodd lluniau a fideos eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir yn cael eu rhoi ar dân ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
Dathlu cyhoeddi'r cadoediad yn Gaza - Al Jazeera
Roedd dathliadau ar strydoedd Gaza fore Gwener wrth i gadoediad rhwng Israel a Hamas ddod i rym am 02:00 amser lleol. Mae'r ymyrraeth gan yr Aifft yn golygu fod 11 diwrnod o wrthdaro bellach wedi dod i ben.
Gwyntoedd o hyd at 70mya yn taro'r gogledd - North Wales Live
Mae rhannau o'r gogledd wedi wynebu hyrddiadau o 70 milltir yr awr dros nos wrth i wyntoedd cryfion achosi amodau heriol ar draws rhannau helaeth o Gymru. Mae rhybudd tywydd melyn yn parhau mewn grym tan 21:00 nos Wener pan mae disgwyl i'r gwyntoedd ostegu.
Plaid Cymru yn cyhoeddi cabinet cysgodol
Mae Adam Price wedi cyhoeddi cabinet cysgodol newydd Plaid Cymru ddydd Gwener. Mae'r ad-drefniad yn golygu swyddi newydd i rai o'r Aelodau o'r Senedd a gafodd eu hethol i'r siambr am y tro cyntaf yn yr etholiad bythefnos yn ôl.
Tywysog William yn beirniadu'r BBC dros gyfweliad Diana
Mewn datganiad anarferol i aelod o'r Teulu Brenhinol, mae'r Tywysog William wedi beirniadu'r BBC dros gyfweliad gyda'i fam, y Dywysoges Diana, ar raglen Panorama yn 1995. Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, wedi cyfaddef fod "y broses o sicrhau'r cyfweliad ymhell o'r hyn mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl".
Cofiwch ddilyn y datblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.