Dathlu cyhoeddi'r cadoediad yn Gaza
21/05/2021
Roedd dathliadau ar y strydoedd yn Gaza fore Gwener wrth i gadoediad ddod i rym rhwng Israel a Hamas.
Golyga ymyrraeth gan yr Aifft fod diwedd i 11 diwrnod o wrthdaro.
Mewn datganiad gan ei swyddfa, dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu fod y cabinet diogelwch "wedi derbyn yn unfrydol yr argymhellion i dderbyn cynnig Eifftaidd am gadoediad diamod", yn ôl Al Jazeera.
Fe gadarnhaodd y grwpiau Palesteinaidd, Hamas a Jihad Islamaidd, y cadoediad gan ychwanegu'n ddiweddarach y byddai'n weithredol am 2:00 fore Gwener (amser lleol).
Darllenwch y stori'n llawn yma.