Newyddion S4C

Tywysog William yn beirniadu'r BBC dros gyfweliad Diana

Sky News 21/05/2021
Y Tywysog William

Mae'r Tywysog William wedi beirniadu'r BBC dros gyfweliad â'r Dywysoges Diana.

Roedd y Tywysog yn ymateb i ganlyniadau ymchwiliad annibynnol a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau.

Mewn datganiad anarferol ar gyfer aelod o'r teulu brenhinol, fe ddywedodd William fod methiannau'r BBC ynghylch cyfweliad Martin Bashir â Diana ar gyfer rhaglen Panorama yn 1995 wedi "cyfrannu'n sylweddol at ei hofn, paranoia ac ynysrwydd".

Dywedodd hefyd na ddylai'r bennod gael ei darlledu byth eto, yn ôl Sky News.

Ychwanegodd mai nid un gohebydd yn unig oedd wedi gadael y Dywysoges Diana i lawr ond penaethiaid y BBC hefyd "a edrychodd i'r cyfeiriad arall yn lle gofyn y cwestiynau caled".

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol presennol y BBC, Tim Davie: "Er bod yr adroddiad yn datgan fod Diana, Tywysoges Cymru, yn awyddus i gael cyfweliad gyda'r BBC, mae'n amlwg fod y broses o sicrhau'r cyfweliad ymhell o'r hyn mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl".

Mae adroddidau fod Mr Davie wedi anfon llythyr at y Tywysog Charles yn ymddiheuro am "honiadau di-chwaeth ac anwir" Bashir am y Tywysog, aelodau o'i staff ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol.

Darllenwch fwy am yr ymateb yma.

Llun: Paul Townley (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.