Plaid Cymru yn cyhoeddi cabinet cysgodol
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi cyhoeddi ei gabinet wrthblaid yn y Senedd.
Daw ailstrwythuro o'r cabinet cysgodol ar ôl i'r blaid ennill 13 o seddi'r Senedd yn yr Etholiad.
Yn sgil y cyhoeddiad, dywedodd Adam Price AS fod Cymru bellach yn dechrau ar “gyfnod tyngedfennol” wrth adfer o’r pandemig, a bydd y blaid yn cyflwyno tîm newydd i'r Senedd sydd â "sgiliau, profiad a syniadau ffres".
Dywedodd Adam Price AS: “Gyda chyfuniad o Aelodau sydd newydd a’r rhai cafodd eu hail-ethol, mae Grŵp Plaid Cymru yn dod â deinameg newydd a chadarnhaol i drafodion y Senedd.
“Lle mae tir cyffredin, bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio gydag eraill er budd ein cenedl ond pan fydd diffygion o ran byrder a chyflawni, byddwn yn dal y llywodraeth i gyfrif ac yn mynnu gwell i Gymru.”
Rhys ab Owen fydd yn cymryd lle Leanne Wood a Dr Dai Lloyd fel Gweinidog Cysgodol Cyfansoddiad a Chyfiawnder.
Luke Fletcher fydd yn cymryd yr awenau fel Gweinidog Cysgodol Yr Economi a Delyth Jewell fel Gweinidog Cysgodol Trafnidiaeth, y ddau yn cymryd lle Helen Mary Jones.
Fe fydd Siân Gwenllian yn parhau fel Gweinidog Cysgodol Addysg a'r Gymraeg, Plant a Phobl Ifanc, yn ogystal â Phrif Chwip a Dirprwy Arweinydd. Fe fydd Rhun ap Iorwerth hefyd yn parhau fel Gweinidog Cysgodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cabinet wrthblaid:
Adam Price - Arweinydd
Rhys ab Owen - Cyfansoddiad a Chyfiawnder
Llyr Huws Gruffydd - Cyllid a Llywodraeth Leol
Luke Fletcher - Economi
Heledd Fychan - Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol
Cefin Campbell - Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
Sioned Williams - Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Delyth Jewell - Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth
Mabon ap Gwynfor - Tai a Chynllunio
Siân Gwenllian - Addysg a'r Gymraeg, Plant a Phobl Ifanc, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd
Rhun ap Iorwerth - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Comisynydd Senedd a Dirprwy Arweinydd
Peredur Owen Griffiths - Cymunedau a Phobl Hŷn
Elin Jones - Llywydd