Newyddion S4C

Mark Drakeford yn beirniadu'r anhrefn yn Abertawe nos Iau

20/05/2021
Glanhau Mayhill

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi beirniadu anhrefn yn ardal Mayhill o ddinas Abertawe nos Iau.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Mr Drakeford: "Mae’r trais y gwelwn yn Abertawe neithiwr yn hollol annerbyniol.

"Dydyn ni ddim yn goddef yr ymddygiad yma unrhyw le yng Nghymru", ychwanegodd.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi disgrifio'r golygfeydd fel rhai "cwbl warthus" gan ychwanegu: "Rwyf yn meddwl am breswylwyr Mayhill a oedd yn gorfod goddef y fath ymddygiad arswydus".

Fore Gwener, fe ddechreuodd Cyngor Dinas Abertawe ar y gwaith o lanhau wedi'r golygfeydd yn yr ardal nos Iau.  

Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi dechrau ymchwiliadau i'r achos o anhrefn yn y ddinas. 

Image
Glanhau Mayhill
Fe ddechreuodd Cyngor Dinas Abertawe ar y gwaith o lanhau fore Gwener.  Llun: Cyngor Dinas Abertawe

Mae'r heddlu'n dweud fod y digwyddiad bellach ar ben gyda'r sawl a oedd ynghlwm â'r digwyddiad wedi gwasgaru.

Mewn datganiad, fe wnaeth yr heddlu annog pawb i beidio â dychwelyd i'r ardal ac y byddai'r llu yn parhau i fod yn weledol drwy gydol nos Iau a bore Gwener.

Fe ychwanegodd Heddlu De Cymru y bydden nhw'n delio'n gadarn ag unrhyw un sy'n dychwelyd a'n bygwth diogelwch y cyhoedd ymhellach.

Mae un dyn wedi sôn wrth Wales Online am yr olygfa wrth i'w gar gael ei roi ar dân ac wrth i friciau gael eu taflu ato fe a'i dŷ.

Image
WalesOnline

Cafodd lluniau a fideos eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn dangos car yn cael ei wthio i lawr bryn yn yr ardal, cyn taro i mewn i gar arall a oedd ar dân.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod angen i drigolion yr ardal aros yn eu tai dros nos tra bod ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Tim Morgan: "Roedd digwyddiad neithiwr yn gwbl annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adnabod y sawl sy'n gyfrifol.

"Hoffwn sicrhau cymuned Mayhill y gall y sawl a oedd ynghlwm a'r digwyddiad ddisgwyl wynebu gweithredu cadarn.  Mae'r ymchwiliadau wedi'r digwyddiad eisoes wedi dechrau i adnabod pawb oedd yn rhan o hyn".

'Ofnadwy deffro i'r golygfeydd'

Dywedodd Luke Fletcher, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru: "Mae'n ofnadwy deffro i'r golygfeydd yn Mayhill neithiwr.  Dylai bobl deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau.  Bydd Sioned Williams (AS Plaid Cymru, De Orllewin Cymru) a finnau'n edrych nawr i ymateb yr heddlu i ddigwyddiadau, a byddwn yn edrych i ddarganfod achosion craidd yr ymddygiad hwn".

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Dde Orllewin Cymru, Tom Giffard, nos Iau: "Golygfeydd ysgytwol o Mayhill ar gyfryngau cymdeithasol heno".

"Gobeithiaf y caiff hyn ei sortio cyn gynted â phosib", ychwanegodd.

Rhannodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru ei ymateb yntau i'r golygfeydd hefyd.  Dywedodd Jeremy Vaughan: "Wedi fy nhristau a'n gynddeiriog am ddigwyddiadau yn Abertawe neithiwr.  Bydd cymaint o deuluoedd wedi eu poenydio gan y rhai sy'n gyfrifol, credwch na fyddwn ni yn Heddlu De Cymru yn oedi i'w darganfod.  Byddwn yn gweithio'n galed gydag eraill i helpu a chefnogi preswylwyr lleol sy'n haeddu gwell na hyn".

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu a fyddai'n gallu bod o gymorth wrth adnabod y sawl sy'n gyfrifol i gysylltu â'r llu gan ddefnyddio rhif digwyddiad 992 ar 20 Mai. 

Prif lun: Cyngor Dinas Abertawe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.