Gwyntoedd o hyd at 70mya yn taro'r gogledd
21/05/2021
Cafodd rhannau o ogledd Cymru eu taro gan wyntoedd cryfion o hyd at 70 milltir yr awr dros nos.
Fe olygodd hyn amodau teithio heriol mewn sawl ardal gyda'r heddlu'n annog pobl i gymryd gofal wrth deithio.
Mae rhybuddion am lifogydd posib yn weithredol mewn mannau, gyda gweithfeydd ffordd wedi eu gohirio oherwydd y tywydd, yn ôl North Wales Live.
Mae disgwyl i'r tywydd gwyntog barhau tan 21:00 nos Wener.
Darllenwch y stori'n llawn yma.