Newyddion S4C

Cylchgrawn Barn yn ymddiheuro i danysgrifwyr 

21/03/2023
s4c

Mae cylchgrawn Barn wedi ymddiheuro i danysgrifwyr wedi problemau dosbarthu rhifyn mis Mawrth. 

Mewn neges ar Twitter dywedodd cylchgrawn Barn eu bod nhw’n ymwybodol bod tanysgrifwyr yn dal heb dderbyn eu copi.

“Roedd y cwmni sy’n argraffu BARN wedi treialu cwmni postio newydd, ond ymddengys i’r cwmni yma wneud camgymeriadau mawr wrth gasglu a dosbarthu’r cylchgrawn. 

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda’r argraffwyr drwy gydol y mis i geisio datrys y broblem a sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto."

Mae cylchgrawn barn wedi cynnig “ymddiheuriadau taer i bawb y mae'r amryfusedd yma wedi effeithio arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.