Newyddion S4C

Daeargryn pwerus yn taro Affganistan, Pacistan ac India

21/03/2023
S4C

Mae daeargryn pwerus wedi’i deimlo mewn rhannau o Affganistan, Pacistan ac India ddydd Mawrth.

Dywedodd Adran Feteoroleg Pacistan fod y daeargryn yn mesur 6.8 ar y raddfa, gyda’r uwchganolbwynt ym mynyddoedd Hindu Kush ger talaith anghysbell gogledd Affganistan yn Badakhshan.

Mae Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau (USGS) wedi mesur y maint ychydig yn is, sef 6.5. Dywedodd yr USGS fod yr uwchganolbwynt 40 cilomedr (25 milltir) i'r de-ddwyrain o dref Jurm yn Affganistan, ger y ffiniau â Phacistan a Tajikistan.

Ar hyn o bryd does dim anafiadau na marwolaethau wedi eu cofnodi.

“Hyd yn hyn, diolch i Dduw, ni chafwyd unrhyw newyddion drwg am anafiadau. Rydyn ni’n gobeithio bod holl ddinasyddion y wlad yn ddiogel,”meddai llefarydd ar ran llywodraeth Affganistan, Zabihullah Mujahid, ar Twitter.

Cafodd y daeargryn ei deimlo ym mhrifddinas Affganistan, Kabul, yn ogystal â nifer o ddinasoedd Pacistanaidd, gan gynnwys Islamabad a Lahore.

Y llynedd fe wnaeth daeargryn maint 6.1 yn nwyrain Affganistan ladd fwy na 1,000 o bobl.

Llun: @Akhtar Soomro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.