Newyddion S4C

Wyth wedi eu harestio mewn rêf ger Llanymddyfri

21/03/2023
S4C

Cafodd wyth o bobl eu harestio ar ôl i Heddlu Dyfed Powys darfu ar rêf anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl yr heddlu, roedd tua 120 yn bresennol yng ngoedwig yr Halfway ger Llanymddyfri ddydd Sul.   

Cyfoeth Naturiol Cymru yw perchennog y safle. 

Yn ôl yr heddlu, roedd 70 o gerbydau yn yr ardal. 

Cafodd wyth o bobl eu harestio am amrywiol droseddau, yn cynnwys bod ym meddiant cyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a throseddau gyrru. Drwy ymchwilio ymhellach mewn cartref yn Sir Gaerloyw, cafodd tua 100 gram o'r cyffur cocên ei ddarganfod 

Mae dau berson a gafodd eu harestio wedi eu cyhuddo ac wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli.  

Mae Steven Martin, 32, o Edwards Close, Joys Green, Lydbrook, Sir Gaerloyw wedi ei gyhuddo o yrru'n beryglus, gyrru tra roedd wedi ei wahardd a gyrru heb yswiriant. Cafodd Leigh Papps, 34, o Greenfield Road, Joys Green, Lydbrook, ei gyhuddo o achosi difrod troseddol.  

Cafodd Martin ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, a bydd yn ymddangos  yn Llys Y Goron Abertawe ar 3 Ebrill.   

Cafodd Papps ddirwy o £16, a'i orchymyn i dalu £85 tuag at gostau'r llys.

Mae tri o bobl eraill wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad a thri arall wedi cael rhybudd.

Dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price : “Ry'n ni'n gwybod fod rêfs yn medru achosi poen meddwl mewn cymunedau, ac yn anodd i'w hatal am fod cynifer yn  ymgynnull ar yr un adeg. 

“Rydyn yn dibynnu ar gefnogaeth a gwybodaeth gan y cymunedau hynny er mwyn eu hatal yn gyflym."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.