Newyddion S4C

Gosod pibell dan ffordd yn Sir Gaerfyrddin er mwyn diogelwch dyfrgwn

Dyfrgi

Mae pibell danddaearol wedi ei gosod dan ffordd yn Sir Gaerfyrddin er mwyn gwella diogelwch dyfrgwn.

Bydd y bibell sydd wedi ei gosod gan y cyngor ym Mhont y Comisiynydd ar gyrion Cydweli yn galluogi dyfrgwn lleol i osgoi'r A484 lle mae’n croesi Afon Gwendraeth.

Mae ffens i arwain y dyfrgwn i'r bibell hefyd wedi'i chodi. 

Cafodd y prosiect ei gwireddu yn sgil cyllid gan y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwaith partneriaeth rhwng Cyngor Tref Cydweli a Chyngor Sir Caerfyrddin. 

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ei fod yn "falch iawn” bod diogelwch dyfrgwn wedi'i wella.

"Roedd yr ardal hon yn cael ei hystyried yn fan peryglus i ddyfrgwn, ond rwy'n gobeithio bydd gosod y bibell danddaearol newydd yn gwella'n fawr ddiogelwch y boblogaeth ddyfrgwn yma,” meddai.

‘Dirywiad’

Dywedodd Becky Clews-Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol - Mamaliaid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru bod dyfrgwn wedi cael eu lladd ar y ffordd.

Mae nifer y dyfrgwn yng Nghymru sy'n marw mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd wedi bod yn peri pryder ers tro.

 "Mae’n gallu cael effaith sylweddol ar boblogaethau lleol, yn enwedig os mai dyfrgi benywaidd sydd â rhai bach sy'n trengi,” meddai.

"Rydym ni'n croesawu cwblhau'r gwaith hwn a ddylai fod o fudd i'r boblogaeth ddyfrgwn leol a helpu i atal dirywiad pellach."

Bydd y safle'n cael ei fonitro i weld pa mor gyflym bydd y dyfrgwn yn addasu i ddefnyddio'r llwybr diogel hwn o dan y ffordd.

Mae poblogaethau dyfrgwn ar draws Prydain wedi bod yn cynyddu'n raddol ar ôl gostyngiad sylweddol yn yr 1970au.

Fodd bynnag, dangosodd Arolwg Cenedlaethol diwethaf Cymru ar gyfer Dyfrgwn yn 2021 ddirywiad bach yn y boblogaeth, felly mae gweithredu i gefnogi'r rhywogaeth warchodedig hon yn bwysig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.