Newyddion S4C

Wayne Hennessey yn gadael carfan Cymru wrth i Gunter ddychwelyd fel hyfforddwr

21/03/2023
hennessey gunter johnson

Mae Cymru yn wynebu mwy o anafiadau wrth i gemau agoriadol ymgyrch rhagbrofol Ewro 2024 Cymru agosáu.

Wayne Hennessey yw'r diweddaraf i adael y garfan gydag anaf, ac mae bellach wedi dychwelyd i'w glwb, Nottingham Forest.

Bydd ymosodwr Forest, Brennan Johnson, yn ymuno gyda gweddill y garfan ddydd Iau yn dilyn asesiad pellach gan dîm meddygol Cymru.

Mae ymosodwyr Abertawe a Chaerdydd, Liam Cullen a Mark Harris, wedi cael eu galw i'r garfan.

Fe wnaeth Ben Davies dynnu allan o'r garfan ddydd Llun wedi iddo ddioddef anaf wrth chwarae i'w glwb Tottenham Hotspur ddydd Sadwrn.

Mae amddiffynnwr Stoke, Morgan Fox wedi cymryd ei le. 

Gunter yn hyfforddi

Newid cadarnhaol sydd wedi ei gyhoeddi yw bod Chris Gunter wedi ymuno â'r tîm hyfforddi.

Fe wnaeth Gunter ymddeol o bêl-droed rhyngwladol mis diwethaf, ond mae'n parhau i chwarae i'w clwb AFC Wimbledon.

Ond daeth cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Mawrth, y bydd Gunter yn chwarae rôl gynorthwyol yn y tîm hyfforddi wrth i Gymru geisio cyrraedd Ewro 2024 yn Yr Almaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.