Newyddion S4C

'Ydyn ni wedi claddu'r Eisteddfod Genedlaethol?' - Ymateb cymysg i newidiadau'r brifwyl

'Ydyn ni wedi claddu'r Eisteddfod Genedlaethol?' - Ymateb cymysg i newidiadau'r brifwyl

Mae arweinydd côr wedi gofyn a ydy'r Eisteddfod Genedlaethol 'wedi ei gladdu' yn dilyn penderfyniad gan y Brifwyl i ddisodli'r pafiliwn traddodiadol eleni.

Bydd dwy ganolfan gystadlu lai o faint yn disodli'r prif bafiliwn, gydag un yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall hyd at 500 o bobl. Roedd y pafiliwn blaenorol yn cynnig lle i eistedd i rhwng 1,800 a 2,000 o bobol.

Daw'r penderfyniad yn dilyn adolygiad annibynnol o gystadlaethau'r Eisteddfod, ac maen nhw'n dweud y bydd yn sicrhau mai'r goreuon yn unig fydd yn ymddangos ar y prif lwyfan ac yn sicrhau fod y brif ganolfan yn llawn yn amlach.

Mae Gwyn Nicholas yn arweinydd Côr Llanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin, ac enillodd Fedal Goffa Syr TH Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022, am ei gyfraniad i'w gymuned leol. Dyw'r newidiadau ddim yn ei blesio. 

"Yden ni wedi claddu'r Eisteddfod Genedlaethol, fel i ni'n gwybod amdani?" mae'n gofyn.

"Falle bod rhaid symud 'mlaen a falle bod ishe rhagbrofion, ond bod un pafiliwn yn unig.

"Ma' angen cadw pethe fel y ma' nhw. Un pafiliwn mowr sydd yn uchafbwynt i bawb, ma' ishe cadw'r pafiliwn mowr 'ma."

'Teilwng'

Yn ystod eisteddfodau'r gorffennol, gyda rhai cystadlaethau torfol fel y corau, roedd pob cystadleuydd yn ymddangos ar lwyfan pafiliwn y Brifwyl.

Yn Eisteddfod Ceredigion yn 2022, cafodd pob côr gystadlu ar lwyfan y pafiliwn yn nghategori'r Côr Adloniant gydag wyth ymgeisydd yn perfformio. A chafodd pob ymgeisydd ymddangos ar lwyfan y pafiliwn yng nghystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru a'r Côr Llefaru, yn ogystal â sawl cystadleuaeth dorfol arall. 

Bydd hyn nawr yn newid, gyda'r tri gorau yn ystod y rownd gynderfynol yn mynd ymlaen i berfformio eto yn y rownd derfynol. 

Ond dywedodd Gwyn fod cael un pafiliwn sydd â dros ddwbl nifer y seddi na'r llall yn gwneud y lleiaf o'r llwyfannau yn israddol.

"Pafiliwn bach, so fe werth mynd fyna, so'r gystadleuaeth hyn cystal," meddai.

"Mae'n deilwng i bawb i gael llwyfan, ein Eisteddfod Genedlaethol ni yw hi. Mae'n deilwng i bawb, unawdau a chorau, i gael bod ar y llwyfan."

Y rhagbrofion yn denu mwy?

Ond dywedodd Trystan Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod wrth Newyddion S4C bod y penderfyniad yn sicrhau tegwch "ar draws yr adrannau."

"Be' 'da ni'n teimlo ydi bod o'n deg ar draws yr adrannau. Mi roedd corau, er enghraifft, pawb ar y llwyfan, ond adrannau eraill dim ond tri ar y llwyfan.

"Be' 'da ni'n gobeithio ydy be' o'dd erstalwm yn rhagbrofion, y bydd 'heina'n fwy dengar yn y ganolfan llai reit yng nghanol y maes er mwyn i bobl mynd i wrando a bydd y profiad yn well i'r cystadleuydd."

'Pwysigrwydd'

Y rheswm am y newidiadau, medd yr Eisteddfod yw i "gadarnhau statws a phwysigrwydd cystadlu fel elfen greiddiol a chanolog" i'r brifwyl ar gyfer y dyfodol.

Cafodd adolygiad annibynnol o gystadlaethau'r Eisteddfod ei gynnal, gydag unigolion, partneriaid, grwpiau, pwyllgorau lleol a phanelau cenedlaethol yn greiddiol i'r penderfyniadau, yn ôl swyddogion yr Eisteddfod. 

Bydd rhai o argymhellion yr adolygiad yn dod i rym eleni, ac eraill yn cael eu cyflwyno yn Rhestr Testunau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.

Un o brif gasgliadau'r adolygiad oedd mai "dathlu'r goreuon yw rôl yr Eisteddfod yn ei hanfod" yn ogystal â meithrin doniau drwy sicrhau fod yna gyfleoedd perfformio o statws i bawb. 

Bydd rhagbrofion ar gyfer unigolion a deuawdau hefyd yn cael eu cynnal yn y canolfannau newydd tra bydd y rhagbrofion gwerin a cherdd dant yn cael eu cynnal yn y Tŷ Gwerin, y rhagbrofion llefaru a monologau yn y Babell Lên a'r rhagbrofion cerdd yn Encore. 

Yn ôl yr Eisteddfod, bydd y cystadlaethau torfol yn "parhau i gael eu gwasgaru ar draws yr wythnos" ond "efallai y bydd ambell gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ddiwrnod gwahanol i’r blynyddoedd diwethaf."

Bydd y rhaglen cystadlu yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth. 

Bydd rhaglen theatr stryd a dawns y Brifwyl hefyd yn cael ei datblygu, gyda pherfformiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y Maes. 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan rhwng 5 a 12 Awst eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.