Newyddion S4C

Cyhoeddi enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023

21/03/2023
Sioned Page Jones

Mae Sioned Page-Jones wedi ei chyhoeddi fel enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei gyflwyno yn flynyddol i wirfoddolwr arbennig fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Cafodd Sioned ei henwebu gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin sydd wedi elwa o’i chefnogaeth a gwaith ieuenctid gwirfoddol dros y 26 mlynedd diwethaf.

Dywedodd aelodau Aelwyd Hafodwenog: “Pan mewn ystafell ymarfer ac yn pendroni dros y ffordd orau i ddysgu neu fynegi’r frawddeg gerddorol yna, y peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw ‘beth wnele SPJ?’.”

Mi fydd Sioned yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanymddyfri.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.