Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd i gyflwyno newidiadau er mwyn diogelu cynghorwyr a staff

20/03/2023

Cyngor Gwynedd i gyflwyno newidiadau er mwyn diogelu cynghorwyr a staff

Mae Cyngor Gwynedd yn cyflwyno newidiadau er mwyn diogelu cynghorwyr a staff ar ôl i nifer ddweud nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.

Fe ddywedodd sawl un nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn ystod dadl ffyrnig fis Awst diwethaf pan wnaeth aelodau'r cyhoedd weiddi ar draws trafodaeth o'r cyngor llawn ar addysg rhyw.

Yn ôl y cyngor, mae'r newidiadau i'r drefn o fewn a thu allan i'r siambr yng Nghaernarfon yn rhan o becyn ehangach ar ddiogelwch a llesiant aelodau etholedig.

Un sydd yn poeni am ei gydweithwyr ydy Cynghorydd Aberdyfi, Dewi Owen. 

"Pan gaeodd Ysgol Aberdyfi fan hyn, mi ddigwyddodd i fi amser hynny a dwi'n meddwl fod o wedi bod yn codi'w ben yn ystod y blynyddoedd diwethaf efo rhai cynghorwyr eraill yng Ngwynedd. 

"O'n i'n cael ambell i ebost hefyd ond wrth gwrs, mae 'na sawl blwyddyn ers hynny rwan a ma' petha wedi symud ymlaen rwan efo cyfrynga newydd 'ma rwan a Facebook a petha, mae o dipyn mwy amlwg rwan dwi'n meddwl nag oedd o flynyddoedd yn ôl a dwi yn poeni am fy nghyd-gynghorwyr yng Ngwynedd be all ddigwydd."

Mae rhai o gynghorwyr a staff Cyngor Gwynedd wedi dweud nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn ystod dadl ffyrnig gafodd ei chynnal yr haf diwethaf.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae asesiad risg yn cael ei gynnal ar gyfer pob cyfarfod y cyngor gan roi ystyriaeth i gyflogi cwmni diogelwch os oes risg uchel o darfu.

Mae rhaff wedi cael ei gosod i wahanu’r oriel gyhoeddus o lawr y siambr, ac mae cefnogaeth ychwanegol yn cael ei roi i gynghorwyr ar faterion diogelwch personol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.