Newyddion S4C

Heddlu’r Met yn 'fisogynistaidd, homoffobig ac yn hiliol' medd adroddiad

21/03/2023
Y Farwnes Louise Casey

Mae adolygiad damniol am ymddygiad Heddlu’r Met wedi dod i’r casgliad fod y sefydliad yn 'fisogynistaidd, homoffobig ac yn hiliol.'

Mae Adolygiad y Farwnes Louise Casey, a gafodd ei gomisiynu yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard, wedi beirniadau’r llu yn hallt am fethu â gwarchod aelodau’r cyhoedd rhag swyddogion oedd yn yn camdrin menywod a phlant.

Daeth y Farwnes Casey i’r canfyddiad bod yna sawl swyddog hiliol yn dal i weithredu yn y llu, tra bod homoffobia sefydliadaol hefyd yn bodoli.

Yn ol yr adolygiad, mae tystiolaeth hefyd bod staff benywaidd y Met yn profi ymddygiad rhywiaethol yn rheolaidd.

Yn yr adroddiad sydd yn 363 tudalen o hyd, daeth y Farnwnes Casey hefyd i’r casgliad bod mwyafrif helaeth o’r gweithlu yn ddynion ac yn wyn, a bod diwylliant o fwlio yn amlwg yno.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn sgil achosion am ddau gyn swyddog o'r Met; Wayne Couzens, a lofruddiodd Sarah Everard, a David Carrick, a gafodd ei ddyfarnu'n euog o 85 trosedd, gan gynnwys ymosodiadau rhyw a threisio.

Mae'r Farnwnes  Casey wedi galw ar y llu i “gyflwyno newidiadau”, yn sgil yr adolygiad “trwyadl, trawiadol a didostur”.

Pan ofynwyd a oedd yna ragor o swyddogion fel Couzens a Carrick yn y llu, fe atebodd y Farnwes Casey : “Ni allaf fod yn sicr nad yw hynny’n bosib.”

Ychwanegodd: “Nid dyletswydd y cyhoedd yw i ddiogelu eu hunain rhag yr heddlu. Swyddogaeth yr heddlu yw i warchod y cyhoedd.

“Mae gormod o bobl yn Llundain nawr wedi colli ffydd yn yr heddlu," meddai. 

Llun: Y Farwnes Louise Casey (PA / Kirsty O'Connor).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.