Cyhoeddi'r ardaloedd yng Nghymru â'r cyfraddau marwolaeth uchaf o gyflyrau'r ysgyfaint
Mae gan Ferthyr Tudful, Wrecsam a Sir Ddinbych rai o'r cyfraddau marwolaeth uchaf ar gyfer cyflyrau'r ysgyfaint yng Nghymru, yn ôl ymchwil.
Mae dadansoddiad newydd gan elusen Asthma + Lung UK Cymru yn dangos fod pobl yn yr ardaloedd hynny ymysg y mwyaf tebygol yn y DU o gael eu hanfon i'r ysbyty ar frys ac i farw o gyflyrau'r ysgyfaint.
Yn ôl yr elusen, yng Ngheredigion, Sir Fynwy a Phowys y mae'r cyfraddau isaf.
Roedd wyth o'r 10 ardal gyda'r cyfraddau uchaf yn y de, gan gynnwys Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent.
Mae gan rai o'r ardaloedd sydd â chyfraddau marwolaethau uchel, lefelau uwch o lygredd aer.
Mae lefelau PM 2.5, sef y math o lygredd aer mwyaf peryglus i iechyd pobl, yng Nghaerdydd bron i ddwywaith y lefel yng Ngheredigion.
Mae cyfraddau ysmygu uchel mewn rhai mannau hefyd yn gallu bod yn gyfrifol am gyfraddau uwch. Yn ôl amcangyfrifon, mae un rhan o bump o'r boblogaeth yn ysmygu ym Mlaenau Gwent.
'Cywilyddus'
Dywedodd Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru, Joseph Carter, ei bod hi'n "gywilyddus fod pobl ar draws Cymru yn ei chael hi'n anodd anadlu, ac yn cael eu rhuthro i'r ysbyty ar frys a bod cymaint yn marw'n ddiangen o'u cyflyrau ysgyfaint.
"Er mwyn gwneud yn well, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran iechyd ysgyfaint a sicrhau fod gan y Gwasaneth Iechyd yr adnoddau i gefnogi ei staff ymroddedig.
Mae'r elusen yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pawb yn cael diagnosis cynnar ar gyfer eu cyflwr ysgyfaint, gan dderbyn y gefnogaeth briodol.
Maent hefyd yn apelio ar y llywodraeth i fynd i'r afael â chyfraddau annerbyniol o uchel o lygredd aer ac ysmygu, sydd yn arwain at gyflyrau ysgyfaint yn datblygu a gwaethygu.
Yn ôl yr elusen, er gwaethaf gwaith diflino meddygon a nyrsys y gwasanaeth iechyd mewn byrddau iechyd yng Nghymru, mae lefelau sylfaenol o ofal ar gyfer pobl â chyflyrau ysgyfaint yn "anghyson."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd camau cadarn er mwyn creu Cymru sy'n iachach a gwyrddach. Mae hyn yn cynnwys camau i wella safon yr aer, lleihau cyfraddau ysmygu a chefnogi pobl sydd yn byw gydag afiechydon resbiradol.
"Rydym yn disgwyl i GIG Cymru ddarparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer pobl gyda chyflyrau ysgyfaint. Mae ein Datganiad Ansawdd ar gyfer afiechydon resbiradol yn cefnogi byrddau iechyd i wella safon a chysondeb ein gofal iechyd ar gyfer pobl gyda'r cyflyrau hyn ar draws Cymru."