Newyddion S4C

Mwy o bobl nag erioed ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd

Newyddion S4C 20/05/2021

Mwy o bobl nag erioed ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd

Mae mwy o bobl nag erioed ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Roedd bron i 570,000 ar y rhestrau aros ym mis Mawrth, sy’n cyfateb â 18% o boblogaeth Cymru.

Mae Ina Morgan yn un o rheini sydd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae'n poeni bydd rhaid aros pedair blynedd am driniaeth.

“Gesi yng ngalw lan i fynd i gael pre-med blwyddyn i mis Mawrth diwetha', a wedo nhw wrtha i wele ni chi mewn pythefnos dair," dywedodd.

“Ond wedyn ddoth y Coronavirus, a wedyn that's it fi di clywed dim.

“Pan fydda i'n iste lawr yn nos fi ffili cadw'n nghos yn llonydd.

“Gorfod cerdded ar hyd lle, nôl a mlan, iste am bach, poen ofnadw, ofnadw fel 'se cyllell yn mynd trw'ch pen-glin chi.

“Falle bydda i'n bedair blynedd cyn gai operation wy'n credu wrth ma' pethe'n mynd.”

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi bydd £100m yn cael ei wario er mwyn ceisio datrys y broblem, ond mae'n cyfaddef ei fod yn her aruthrol.

Dywedodd Eluned Morgan AS:  “Ma'r dasg yn un anferthol, ac i ni'n ymwybodol bo 'na bobl ar draws Cymru yn diodde', mewn poen, ac wrth gwrs i ni'n mynd i neud popeth yn ein gallu ni i leddfu'r boen yna, wrth fod i ni'n aros i fynd trwy’r system yma i weithio trwy'r rhestri aros yma sydd yn rhai hir dros ben.

“Os oes angen i fi gymryd penderfyniadau sy'n mynd i fod yn anodd mi na i hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.