Newyddion S4C

Fideo o ffoadur o Affganistan yn canu yn Gymraeg yn swyno'r Cymry

Fideo o ffoadur o Affganistan yn canu yn Gymraeg yn swyno'r Cymry

Mae fideo o ffoadur o Affganistan yn canu mewn Eisteddfod Cylch yr Urdd dros y penwythnos wedi cael cryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Cafodd y clip o’r ferch ifanc yn canu’r gân ‘Dere di, dere do’ ei rannu gan brif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis.

Dywedodd Ms Lewis bod y ferch a'i theulu wedi ffoi eu cartref yn Affganistan 19 mis yn ôl.

"19 mis yn ôl fe wnaeth y ferch fach hon a'i theulu ffoi o Afghanistan yn dilyn goresgyniad y Taliban,” meddai.

"Am bum mis, gyda 112 o ffoaduriaid eraill, fe arhoson nhw yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd.

"Ac ar ôl gadael, cofrestru eu plant mewn Addysg Gymraeg."

'Hyfryd'

Dros flwyddyn yn ôl fe ddaeth cannoedd o ffoaduriaid o Affganistan i Gymru yn dilyn goresgyniad y Taliban. 

Roedd nifer o’r ffoaduriaid wedi ymgartrefu dros dro mewn gwersyll yr Urdd. 

Denodd y fideo ymateb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles ymysg yr rheini fu'n canmol.

"Codi calon dyn yng nghanol yr holl lanast," ychwanegodd y cyfarwyddwr theatrig Cefin Roberts. "Diolch am rannu."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dawn Bowden, ei fod yn "hyfryd" gweld.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.