Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad ar fenyw yng Nghaerdydd
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar fenyw 18 oed yng Nghaerdydd fore dydd Sul.
Digwyddodd yr ymosodiad ychydig wedi 01:30 ar Heol Ball, Llanrhymni.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau ond mae hi bellach wedi cael dychwelyd adref.
Dywedodd y llu fod eu hymholiadau yn parhau a'u bod yn apelio am wybodaeth.