Mynd i'r rhyfel ‘ar gelwydd’ – 20 mlynedd ers dechrau rhyfel Irac
Mynd i'r rhyfel ‘ar gelwydd’ – 20 mlynedd ers dechrau rhyfel Irac
Mae’n 20 mlynedd ers i luoedd y DU a’r UDA arwain ymosodiad ar Irac er mwyn disodli’r arweinydd Saddam Hussein.
Dywedodd llywodraethau’r ddwy wlad eu bod nhw’n gweithredu ar sail gwybodaeth fod gan Saddam Hussein arfau o ddinistr torfol ac yn peri perygl.
Fe wnaeth ymchwiliad Syr John Chilcott gyhoeddi 13 mlynedd yn ddiweddarach “nad oedd y wybodaeth wedi sefydlu tu hwnt i amheuaeth naill ai fod Saddam Hussein wedi parhau i gynhyrchu arfau cemegol a biolegol neu fod ymdrechion i ddatblygu arfau niwclear wedi parhau.”
Roedd yr Arglwydd Peter Hain yn aelod o gabinet Tony Blair, ac mewn cyfweliad i BBC Cymru, dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru ei fod nawr yn difaru ei benderfyniad i bleidleisio dros y rhyfel.
Dywedodd: “Roeddwn yn credu’r wybodaeth, oherwydd roedd yn dweud fod gan Saddam Hussein arfau o ddinistr torfol a’i fod wedi eu defnyddio o’r blaen.
“Ac yn drasig, dangoswyd fod y wybodaeth hynny yn hollol ffug, felly aethon ni i ryfel ar gelwydd.”
Roedd y cyn-aelod seneddol Ann Clwyd yn gyn-gennad Tony Blair i Irac ac mae’n amddiffyn ei safiad. Dywedodd; “Mae’n annheg iawn bod yr ymosodiadau ‘ma yn cael eu gwneud ar Tony Blair. Felly dwi hefyd yn amddiffyn Tony Blair achos dwi’n gwybod be ddigwyddodd.”
Roedd Jason Hughes, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn 16 oed pan ymunodd â’r fyddin ychydig fisoedd cyn rhyfel Irac. Dywedodd fod ei brofiadau yno yn dal i gael effaith arno. Dywedodd: “Dwi dal yn stryglo weithiau. Dwi’n dal efo stress efo gwaith rhywbeth felna dwi’n meddwl mod i bob tro mewn rhyfel. Ond o ni'm fod yna. O'dd na'm rheswm i ni fod yna o gwbl.”
Pan wnaeth lluoedd y DU adael Irac yn 2009, roedd 179 o luoedd arfog Prydain wedi eu lladd, gan gynnwys 14 o Gymry a 150,000 o bobl Irac wedi marw gyda dros filiwn o bobl wedi eu hadleoli. Fe gostiodd yr ymgyrch gyfan £8 biliwn.