Gary Lineker yn dychwelyd i'w swydd efo'r BBC
Gary Lineker yn dychwelyd i'w swydd efo'r BBC
Mae Gary Lineker yn ôl yn cyflwyno Match of the day, ar ôl dod i gytundeb efo'r BBC yn dilyn ffrae am ei sylwadau ar Twitter. Fe gafodd y cyn pel-droediwr ei dynnu oddi ar y rhaglen y penwythnos diwethaf, ar ôl iddo wneud sylwadau ar Twitter oedd yn beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig.