Archif Ddarlledu Genedlaethol ar fin lansio yn Aberystwyth
Archif Ddarlledu Genedlaethol ar fin lansio yn Aberystwyth

Yn Aberystwyth, mae cofnod newydd o hanes Cymru ar fin lansio i'r cyhoedd. Mae'r Archif Ddarlledu Genedlaethol yn gasgliad digidol o filoedd o glipiau - fel recordiadau sain o'r 1930au, clipiau teledu o'r 50au, a llawer mwy. Mae 'na glipiau sy'n adrodd hanes trychineb Aberfan hefyd.