Newyddion S4C

Rhybuddion argyfwng cyhoeddus i’w hanfon i ffonau symudol

19/03/2023
ffon symudol

Fe fydd rhybuddion yn cael eu hanfon i ffonau symudol yn y DU ym mis Ebrill er mwyn profi system rybudd cyhoeddus newydd gan Lywodraeth y DU.

Fe fydd y system yn caniatáu i’r llywodraeth a gwasanaethau brys i anfon negeseuon argyfwng er mwyn rhybuddio’r cyhoedd am unrhyw achlysuron sy’n peryglu bywyd, fel llifogydd neu danau gwyllt.

Mae disgwyl i’r prawf gymryd lle ar 23 Ebrill.

Fe fydd yn rhaid i ddefnyddwyr ffonau gydnabod y rhybudd cyn gallu defnyddio nodweddion eraill ar eu teclynnau.

Fe fydd neges yn ymddangos ar sgriniau’r teclynnau yn ystod y prawf gyda chryndod a sŵn rhybudd uchel fydd yn canu am tua 10 eiliad, hyd yn oed os ydy’r ffon wedi ei osod yn fud.

Mae’r system, sydd yn weithredol o ddydd Sul ymlaen yn debyg i rai a ddefnyddir yn yr UDA, Canada, Siapan a’r Iseldiroedd.

Fe fydd negeseuon yn dod o’r llywodraeth yn unig a gallai rhybuddion terfysgol gael eu hychwanegu yn hwyrach.

Fe fydd negeseuon yn cynnwys gwybodaeth am yr ardal sydd wedi ei effeithio a gwybodaeth am sut i ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.