Buddsoddiad o £4 miliwn mewn atyniad twristiaeth newydd i Abertawe
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £4 miliwn mewn cynllun i agor llinell sip a cheir cebl yn Abertawe.
Fe fydd yr atyniad newydd yn agor yn 2025 yn ôl y datblygwyr, Skyline Enterprises o Seland Newydd.
Bwriad y cynllun yw creu parc antur awyr agored ar Fynydd Cilfái, sy’n 193 metr o uchder, ar gyrion y ddinas.
Mae’r cynnig yn cynnwys llinell sip, ceir cebl, a llwyfan i roi golygfeydd o’r ddinas a Bae Abertawe.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cyllid o £4 miliwn yn ddibynnol ar y cynllun o £34 miliwn yn derbyn caniatâd cynllunio.
Dywedodd Cyngor Dinas Abertawe fod y cwmni nawr yn y “camau olaf o gwblhau ei ddiwydrwydd dyladwy”.
Dywedodd prif weithredwr gweithredol Skyline Enterprises Geoff McDonals fod y pandemig wedi oedi eu cynlluniau.
Dywedodd: "Mae'n anochel bod y pandemig wedi arafu'r cynnydd, ond mae gwaith dylunio a chydosod tir yn mynd rhagddo wrth i ni gwblhau ein diwydrwydd dyladwy.
"Mae trafodaethau cadarnhaol yn parhau â Chyngor Abertawe a phartneriaid eraill, a bwriedir agor yr atyniad yn 2025.
"Nawr ein bod ni'n dechrau dod allan o'r pandemig, rydym yn gobeithio cyflymu'n paratoadau ar gyfer y cynllun cyffrous hwn, a gallai hynny gynnwys elfen ddigidol yn awr i ychwanegu at y profiad ymweld.
"Rydym yn parhau i fod yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i fod yn rhan o'r rhaglen adfywio gwerth £1bn sydd eisoes ar waith yn Abertawe."
Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Abertawe Rob Stewart: “Mae’r cynlluniau yma yn golygu i fyny at 100 o swyddi newydd gyda channoedd eraill yn ystod y gwaith adeiladu. Fe fydd yn rhoi hwb sylweddol i’r economi yn lleol ac annog rhagor o fuddsoddiad yn y dyfodol.”
Mae Skyline Enterprises yn rhedeg parciau antur yn Seland Newydd, Canada, De Corea a Singapore. Yr atyniad ceir cebl arfaethedig ar gyfer Abertawe fyddai un cyntaf y cwmni y tu allan i Seland Newydd.
Mae’r cynlluniau wedi denu ychydig o wrthwynebiad lleol. Cyn y Nadolig, fe drefnwyd protest gan tua 20 o drigolion lleol yn erbyn y cynlluniau.
Fe fydd cyfle gan y cyhoedd i roi eu barn ar y datblygiad pan fydd y cwmni yn gwneud cynnig cynllunio swyddogol.