Newyddion S4C

Elfyn Evans

Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Mecsico

NS4C

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle ar Rali Mecsico gydag un diwrnod o gystadlu i fynd.

Roedd Evans yn y trydydd safle ar ddiwedd ddydd Gwener, tu ôl i Esapekka Lappi o’r Ffindir oedd yn arwain y rali.

Ond fe gafodd Lappi ddamwain ar y cymal cyntaf ddydd Sadwrn ac roedd ei rali ar ben.

Roedd hyn yn golygu fod Evans i fyny i’r ail safle tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc, arweinydd newydd y rali.

Mae Evans 35.8 eiliad tu ôl i Ogier gyda phedwar cymal i’w rhedeg ddydd Sul.

Llun: Twitter/Elfyn Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.