Cymru'n colli yn Ffrainc ar ddiwedd pencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig

Fe gollodd Cymru o 41-28 yn erbyn Ffrainc yng ngêm olaf y Chwe Gwlad ym Mharis brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd gan Ffrainc gyfle i ennill y bencampwriaeth gyda chanlyniad da yn gosod pwysau ar Iwerddon yn hwyrach yn erbyn Lloegr.
Dechreuodd Cymru yn dda gyda Ffrainc yn ildio cic gosb o fewn munud. Yn hytrach na mynd am y pyst, fe giciodd y maswr Dan Biggar tuag at yr ystlys am lein. Fe enillodd Cymru’r bêl ac er croesi’r llinell gais, fe fethodd y prop Wyn Jones a thurio’r bêl, gan roi cyfle i Ffrainc i glirio gyda chic adlam o’r llinell gais.
Daeth Cymru nôl at y Ffrancwyr eto gyda chyfnod o bwyso o fewn 22 y tîm cartref. Fe enillodd Cymru gic gosb wrth i Ffrainc gamsefyll o dan y pyst.
Unwaith eto fe wnaeth Cymru hepgor mynd at y pyst gan gicio am lein arall. Fe lwyddodd y dacteg y tro hwn wrth i Gymru ennill y lein a George North yn croesi yn dilyn gwaith grymus gan y blaenwyr. Gyda Biggar yn trosi roedd Cymru ar y blaen 7-0 ar ôl wyth munud o'r gêm.
Ond fe darodd Ffrainc yn ôl gan ymosod trwy rengoedd Cymru gyda’r capten Antoine Dupont yn canfod yr asgellwr Damian Penaud i sgorio eu cais cyntaf. Gyda’r cefnwr Tomas Ramos yn trosi’n gelfydd roedd y gêm yn gyfartal ar 7-7.
Daeth sgrym gyntaf y gêm ar ôl 15 munud i Gymru, ond dyfarnwyd cic gosb yn erbyn y crysau cochion wrth iddyn nhw fethu â dygymod â grym blaenwyr Ffrainc.
Daeth cyfle arall i Gymru ymosod ar ôl i ganolwr Ffrainc Gaël Fickou gael ei gosbi am dacl beryglus yn erbyn Alun Wyn Jones. Aeth Cymru am y lein eto gan ennill y bêl ac ymosod i mewn i 22 Ffrainc ond fe darodd Cymru'r bêl ymlaen.
Roedd Cymru wedi cychwyn dipyn yn well na’r disgwyl ac yn cadw’r bêl yn y dwylo a chicio'n llai na’r arfer.
Er i Gymru geisio chwarae’n gyflym fe ildiodd yr wythwr Taulupe Faletau gic gosb am ddal ei afael ar y bêl mewn tacl gyda Ramos yn gosod Ffrainc ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Daeth ail gic gosb yn dilyn cosbi sgrym Cymru unwaith eto gyda’r prop Wyn Jones yn cael ei nodi fel y troseddwr - gyda Ramos yn ychwanegu'r tri phwynt yn rhwydd.
Aeth Ffrainc ymhellach ar y blaen ar ôl 33 munud gydag ail gais wrth i’r canolwr Jonathan Danty groesi yn dilyn ymosodiad arall gyda Ramos yn trosi eto diolch i’r postyn.
Roedd y gêm nawr wedi ei gweddnewid yn llwyr o fewn munudau. Ffrainc 20-7 Cymru.
Nid oedd Cymru’n medru parhau gyda dwysder yr 20 munud cyntaf gyda cham-drafod yn rhoi’r bêl nôl i Ffrainc ar sawl achlysur a chroesawu'r chwiban am yr egwyl.
Artaith i Gymru
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn y modd gwaethaf posib i Gymru wrth i Ffrainc sgorio cais arall gan y prop Uini Antonio. Fe drosodd Ramos eto gan ymestyn y bwlch i 20 o bwyntiau.
Daeth pedwerydd cais a phwynt bonws i Ffrainc bum munud yn ddiweddarach gan y canolwr Fickou a Ramos yn trosi. Ffrainc 34-7 Cymru.
Fe wnaeth Warren Gatland nifer o newidiadau ar ôl 50 munud gyda Tomos Williams yn cymryd lle Rhys Webb fel mewnwr, yr holl reng flaen a Dafydd Jenkins dros Alun Wyn Jones yn yr ail reng. F
e ddaeth Bradley Roberts ymlaen yn lle Ken Owens fel bachwr ac fe gafodd lwyddiant gydag ail gais Cymru wrth iddyn nhw ddangos ychydig mwy o fenter ar ôl 55 munud.
Wrth i Ffrainc dawelu fe wnaeth Cymru ddyfalbarhau ac fe ddaeth llwyddiant gyda chais arall i’r mewnwr bywiog Tomos Williams. Fe drosodd Biggar eto. Ffrainc 34-21 Cymru.
Fe ychwanegodd Ffrainc gais arall yn y munudau olaf gyda Penaud yn drech nag amddiffynwyr Cymru ar yr asgell gyda Ramos yn trosi eto.
Gyda’r chwarae’n fratiog erbyn hyn fe sgoriodd Rio Dyer ar yr asgell i Gymru am bwynt bonws gyda'r eilydd Leigh Halfpenny yn cael y gair olaf gyda'r trosiad.
Y sgôr terfynol: Ffrainc 41-28 Cymru.
Fe enillodd Iwerddon Pencampwriaeth y Chwe gwlad a'r Gamp Lawn ar ôl curo Lloegr yn Nulyn nos Sadwrn.
Llun: Asiantaeth Huw Evans