Newyddion S4C

Elfyn Evans yn Rali Mecsico

Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Mecsico

NS4C 18/03/2023

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle ar ôl diwrnod cyflawn cyntaf Rali Mecsico.

Mae Evans 30.1 eiliad tu ôl i Esapekka Lappi o’r Ffindir sy’n arwain y rali ar ôl wyth cymal ddydd Gwener.

Mae naw cymal i'w rhedeg ddydd Sadwrn a daw'r rali i ben yn dilyn pedwar cymal ddydd Sul.

Dywedodd Evans ei fod yn “weddol hapus” gyda’i berfformiad. 

Dywedodd: “Diwrnod iawn ar y cyfan a falle dim cweit mor gyflym ar rai o’r cymalau. Ond ar y cyfan pethau’n gweithio go lew. Cymedrol hapus a ffordd hir i fynd.”

Llun: Twitter/Elfyn Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.