Newyddion S4C

Cyflwyno cytundebau rygbi safonol cyntaf i Gymru

18/03/2023
EGM URC

Mae’r cytundebau safonol cyntaf yn hanes rygbi yng Nghymru wedi cael eu cynnig i chwaraewyr.

Mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yng Nghymru wedi cadarnhau bod y cytundebau yma yn rhwymol yn gyfreithiol.

Mae pedwar rhanbarth rygbi Cymru wedi bod yn rhoi cynigion i chwaraewyr ers mis Chwefror ond mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru wedi cwblhau’r gwaith ar y cyd ar y cytundebau sydd wedi eu cyflwyno i nifer o chwaraewyr a’u hasiantau yn y 24 awr ddiwethaf. 

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedwyd bod rhagor o gytundebau i ddilyn.

Dywedodd cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall: “Mae hyn yn gam arwyddocaol yn y broses rydym yn dilyn bydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gêm broffesiynol yng Nghymru.

“Rydym yn falch i ddweud bod ein timau proffesiynol nawr mewn sefyllfa i gynnig cytundebau sy’n rhwymol yn gyfreithiol fel bo’r angen."

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, Gareth Lewis: “Yn dilyn cyfnod o ymgynghori cynhyrchiol rwy’n hapus i gadarnhau a chymeradwyo’r dogfennau dros ein haelodau. Rwy’n hapus i ddod a’r broses i ben ac mae ein pwyslais nawr ar gefnogi ein haelodau.”

Dywedodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker; “Mae gallu cynnig y cytundebau safonol cyntaf yn hanes rygbi Cymru yn esiampl arbennig o undod ar gyfer ein gêm.

“Rydym nawr yn agos at ddiwedd y broses, newyddion a fydd yn rhoi hwb i bawb sy’n ymwneud â’r gêm yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.