Newyddion S4C

Tywydd garw

Rhybudd llifogydd mewn grym ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru

NS4C 18/03/2023

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd i ardaloedd yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae rhybudd 'llifogydd - byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylch Afon Dyfrdwy Isaf a Dyffryn Dyfrdwy Isaf

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma. 

Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.