Gweinidog Iechyd newydd Cymru yn cyfaddef fod 'tasg anferthol' o'i blaen
20/05/2021Gweinidog Iechyd newydd Cymru yn cyfaddef fod 'tasg anferthol' o'i blaen
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud fod ganddi 'dasg anferthol' o'i blaen er mwyn adfer gofal iechyd ac i geisio lleihau amseroedd aros yng Nghymru.
Cafodd Eluned Morgan AS ei phenodi yn Weinidog Iechyd wedi'r etholiad wrth i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru.
Ym mis Mawrth eleni, roedd mwy na 568,367 o gleifion yng Nghymru yn aros am driniaethau oedd wedi'u cynllunio.
Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Gweinidog bod cyfrifoldeb ar y llywodraeth i leddfu poen yr unigolion sydd ar y rhestrau aros.
Meddai: “Dwi’n ymwybodol bod yr hanner miliwn o bobl yna ddim yn jyst ystadegau, ond yn bobl sy’n dioddef pob dydd, trwy’r dydd. Mae cyfrifoldeb arnom ni i sicrhau ein bod ni’n neud popeth yn ein gallu i leddfu poen nhw tra bod nhw’n aros, ond hefyd, wrth gwrs, i ddeall ag i drio sicrhau bod nhw’n ymwybodol am faint o amser fydden nhw yn aros. Dwi ddim eisiau codi gobeithion pobl os na fyddwn ni’n gallu delifero.
