Newyddion S4C

Mark Jones

Carcharu dyn o Wrecsam a laddodd ei ffrind cyn cyhoeddi fideos o'i gorff ar Snapchat

NS4C 17/03/2023

Mae dyn o Wrecsam a laddodd cyfaill cyn cyhoeddi fideos o'i gorff marw ar yr ap Snapchat wedi'i garcharu am o leiaf 16 mlynedd. 

Fe wnaeth Mark Jones, 20, wadu llofruddio Kyle Walley, 19, yn dilyn ffrae yn ei dŷ yn Wrecsam ym mis Gorffennaf 2021. 

Ond cafwyd yn euog yn dilyn achos yn Llys y Goron Y Wyddgrug ddydd Iau. 

Cafodd ei ddedfrydu i oes yn y carchar ddydd Gwener, gyda'r barnwr yn dweud y bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 16 mlynedd a 126 dan glo cyn gwneud cais am barôl. 

Wrth dalu teyrnged i Kyle Walley, dywedodd ei deulu ei fod yn "fachgen oedd yn dod ymlaen gyda phawb." 

"Rydyn ni'n teimlo bod blynyddoedd gorau ei fywyd wedi'u dwyn oddi wrtho." 

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.