Newyddion S4C

Manon Steffan Ros yn gwireddu 'breuddwyd' wrth gyrraedd rhestr fer gwobr ysgrifennu genedlaethol

Manon Steffan Ros yn gwireddu 'breuddwyd' wrth gyrraedd rhestr fer gwobr ysgrifennu genedlaethol

Mae’r awdur Cymraeg Manon Steffan Ros wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ysgrifennu genedlaethol sy'n dathlu cyflawniad rhagorol llenorion plant. 

Mae The Blue Book of Nebo, a chafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol yn y Gymraeg a’i chyfieithu gan Manon, ar restr fer Tlws Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2023. 

Nid dyma yw’r tro gyntaf i’r stori derbyn canmoliaeth - enillodd y gyfrol Gymraeg Llyf Glas Nebo wobr Llyfr y Flwyddyn 2019 a Medal Ryddiaith 2018.

Dywedodd Manon Steffan Ros ei bod hi “wrth ei bodd” gyda’r sylw mae’r stori wedi parhau i ddenu y tu hwnt i Gymru. 

“Dwi jyst yn teimlo, bob platfform da ni’n gallu rhoi i’r iaith Cymraeg, mae’n grêt," meddai. 

“A hefyd jyst yn rhyw fath o deyrnged i’r ffaith bod pan ‘dyn ni’n cael ein magu trwy gyfrwng yr iaith Cymraeg, ‘dyn ni’n freintiedig iawn yn y cyfleoedd ‘dyn ni’n cael i fod yn greadigol.

“Fi wnaeth neud y cyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg a ‘nes i benderfynu cadw’r cyfeiriadau yn y llyfr at lenyddiaeth Cymraeg, diwylliant Cymraeg a’n perthynas ni gyda Chymreictod a’r iaith. 

“I fi mae’n teimlo’n arbennig iawn, achos yr elfen Gymreig a Chymraeg sydd ynddo fo, dwi wrth fy modd. 

“Mae cael bod ar y rhestr fer rŵan, mae o’n rhyw fath o freuddwyd ‘de. Mae o’n anhygoel o beth, dwi mor werthfawrogol.”

Stori ‘dorcalonnus’

Mae’r llyfr sydd wedi ei ddisgrifio fel un “torcalonnus” yn dilyn stori bachgen a’i fam sy’n goroesi trychineb niwclear trwy gofnodion dyddiadur.

Dywedodd Jane Noble, Cadeirydd Beirniaid yr Yoto Carnegies 2023, fod y llyfrau ar y rhestr fer yn adrodd straeon am “ddewrder, tosturi a chymuned.”

“Mae’r rhestrau byr eleni yn cyfleu yn glir bod awduron a darlunwyr yn parhau i greu llyfrau rhagorol i blant a phobl ifanc a rheini’n cynrychioli ystod eang o hunaniaethau, gan helpu i sicrhau bod amrywiaeth o brofiadau ledled y DU yn cael eu hadlewyrchu,” meddai.

Yr Yoto Carnegies yw’r gwobrau llyfrau plant mwyaf hir sefydlog y DU a chafodd ei sefydlu yn 1936, gan gydnabod yn flynyddol y straeon a darluniau rhagorol a ddaw o lyfrau plant a phobl ifanc. 

Eleni, menywod yw pob un o'r awduron sydd wedi cyrraedd rhestr fer y Tlws Yoto Carnegie am Ysgrifennu gan gynnwys Sita Brahmachari a Patrice Lawrence. 

Mae 13 o lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer yn gyfan gwbl gyda saith enwebiad i’r Tlws Carnegie am Ysgrifennu a chwech i’r Tlws Carnegie am Ddarlunio.

Bydd seremoni i gyhoeddi’r ddau enillydd ar ddydd Mercher 21 Mehefin. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.