Agor cwest i farwolaethau tri fu farw mewn gwrthdrawiad car ger Caerdydd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaethau tri o bobl ifanc a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad car ger Caerdydd.
Bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 wedi i gar ddod oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg y brif ddinas ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth.
Cafodd y tri ohonynt eu darganfod yn farw yn y car yn ystod oriau man bore Llun, bron i 48 awr wedi'r gwrthdrawiad.
Cafodd Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, hefyd eu hanafu yn wael yn y gwrthdrawiad ac maen nhw'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Clywodd y crwner ym Mhontypridd fod angen ymchwil pellach i’r hyn a achosodd marwolaethau'r tri cyn bod modd bwrw ymlaen â’r cwest.
Nid yw achos marwolaeth y tri o bobl ifanc wedi'i gyhoeddi eto, wrth i ymchwiliadau pellach fynd rhagddynt.
Cafodd y cwest ei ohirio am y tro.
'Calon wedi torri'
Ers eu marwolaethau, mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i Eve Smith, Darcy Ross, a Rafel Jeanne.
Dywedodd tad Eve Smith, Everton Smith, bod ei ferch yn “bopeth y byddai tad ei eisiau”.
“Fydd ddim byd byth yr un fath,” meddai. “Rydw i'w hangen hi yma i fy nghael i drwy hyn. Mae’n sefyllfa amhosib.
Wrth siarad gyda Sky News, dywedodd chwaer Rafel Jeanne fod ei "chalon wedi torri'n ddarnau" gan ddisgrifio ei brawd fel "person hapus, cariadus a hynod o boblogaidd".
Dywedodd ffrind i Eve Smith a Darcy Ross, Tamzin Samuels yr oedd y menywod wastad yn "enaid y parti."
"Roedd pobl yn adnabod Darcy fel plentyn wyllt oedd yn caru bywyd a dim yn poeni am beth oedd pobl yn meddwl amdani, oedd hi'n wych," meddai.
"Roedd gan Eve gwen oedd yn goleuni ystafell. Merch annibynnol oedd pawb yn ei charu."