Sgrîn fawr yng Nghaerdydd ar gyfer coroni y Brenin Charles

Bydd sgrîn fawr yn cael ei gosod yng Nghaerdydd er mwyn i dorfeydd yn y brifddinas gael gwylio coroni'r Brenin Charles III.
Mae Adran Diwylliant Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd £1m yn cael ei fuddsoddi mewn dros 30 o sgriniau ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd y sgrîn wedi ei leoli yng Nghastell Caerdydd fel bod modd gwylio'r coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai.
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Lucy Frazer, y bydd y coroni “yn tynnu pawb ynghyd a’n dathlu'r gorau o Brydain”.
“Bydd y sgriniau hyn yn nhrefi a dinasoedd pedair cenedl y DU yn ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y digwyddiad cyffrous a hanesyddol hwn.”
Bydd digwyddiadau i ddathlu’r Coroni yn digwydd ledled penwythnos hir Gŵyl y Banc gan gynnwys cyngerdd yng Nghastell Windsor.