Newyddion S4C

Arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Penderfynu newid arwyddair 'byd gwyn' Eisteddfod Llangollen yn dilyn cyfarfod

NS4C 17/03/2023

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi penderfynu newid eu harwyddair yn dilyn cyfarfod ddoe.

Mewn datganiad ddydd Gwener, daeth cadarnhad bydd yr arwyddair "Byd gwyn fydd byd a gano. Gwaraidd fydd ei gerddi fo" yn cael ei newid erbyn 2024.

"Mewn cyfarfod ar 15 Mawrth 2023, pleidleisiodd y Bwrdd yn unfrydol i gydweithio â Bardd i ddatblygu arwyddair newydd sy’n adlewyrchu gweledigaeth y sefydliad ar gyfer y dyfodol," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

"Bydd ein harwyddair presennol a’n tarian boblogaidd yn parhau’n rhan o hunaniaeth weledol yr Eisteddfod yn 2023, a bydd y Bwrdd yn treulio’r 5 mis nesaf mewn ymgynghoriad â’n rhanddeiliaid ar y ffordd orau o gomisiynu ein harwyddair newydd, a fydd yn cael ei ddadorchuddio ar gyfer 2024."

Comisiynu

Cafodd y cwpled adnabyddus ei gyfansoddi gan T. Gwynn Jones, ac ers 75 o flynyddoedd, dyma arwyddair i Eisteddfod sy’n denu pobl o bedwar ban byd i Gymru. 

"Blessed World" ydy'r cyfieithiad Saesneg o eiriau'r bardd, ond mewn ymgynghoriad diweddar i foderneiddio’r ŵyl, fe ddaeth i’r amlwg bod rhai yn poeni bod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth eu cyfieithu.

Mae disgwyl y bydd y pwyllgor yn comisiynu artist a bardd newydd i lunio logo ac arwyddair newydd yr ŵyl. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.