Osian Roberts yn cael ei ddiswyddo o'i swydd fel rheolwr cynorthwyol Crystal Palace

Mae Osian Roberts wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr cynorthwyol clwb pêl-droed Crystal Palace.
Cafodd Roberts a phrif hyfforddwr Palace, Patrick Vieira eu diswyddo fore dydd Gwener yn dilyn 12 gêm heb fuddugoliaeth.
Mae Palace yn safle rhif 12 yn y gynghrair, bedwar pwynt yn unig uwchben y safleoedd sy'n disgyn i'r Bencampwriaeth.
Mae Osian Roberts wedi bod yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Crystal Palace ers 2021, a hynny yn dilyn cyfnod fel rheolwr technegol gyda thîm cenedlaethol Moroco.