Arlywydd Tsieina i gyfarfod Vladimir Putin yn Rwsia yr wythnos nesaf

Bydd arlywydd Tsieina Xi Jinping yn teithio i Moscow yr wythnos nesaf i gynnal trafodaethau gydag arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Dywedodd y Kremlin mai bwriad y trafodaethau fydd trafod "partneriaeth gynhwysfawr a chydweithrediad strategol."
Daw hyn wedi i Beijing, sydd yn gynghreiriad i Rwsia, gynnig cynigion i ddod â'r rhyfel i ben yn Wcráin.
Mae gwledydd yn y gorllewin wedi rhybuddio Tsieina yn erbyn darparu arfau i Rwsia.
Dywedodd gweinidog tramor Beijing y bydd Mr Xi yn Rwsia o 20 i 22 Mawrth, gyda disgwyl y bydd nifer o "ddogfennau pwysig dwyochrog" yn cael eu harwyddo.
This will be a trip for friendship and peace. On the basis of no-alliance, no-confrontation and no-targeting of any third party, China and Russia have been promoting greater democracy in international relations.
— Hua Chunying 华春莹 (@SpokespersonCHN) March 17, 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Tsieina ddydd Gwener y bydd y daith yn un ar gyfer "cyfeilgarwch a heddwch."
Yn ôl adroddiadau yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener, bydd Mr Xi yn siarad yn rhithiol gyda Mr Zelensky ar ôl ei daith i Rwsia, ond nid oes cadarnhad o hyn hyd yma.