Awdur yn cyhuddo Gŵyl y Gelli o 'droi ei chefn' ar Gymru

Mae'r awdur Richard Lewis Davies wedi cyhuddo Gŵyl y Gelli o anwybyddu diwylliant Cymreig.
Yn ôl Golwg360, mae'r awdur, sydd hefyd yn bennaeth cwmni cyhoeddi Parthian, wedi cyhuddo'r ŵyl o droi ei chefn ar Gymru, drwy beidio â gwahodd awduron a chyhoeddwyr Cymreig eleni.
Mae'r ŵyl, sydd yn dathlu llenyddiaeth a chelf, yn cael ei chynnal yn flynyddol ym Mhowys. Eleni, fodd bynnag, fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn ddigidol o achos y pandemig.
Mewn ymateb, dywedodd y trefnwyr wrth Newyddion S4C eu bod yn anghytuno gyda'r sylwadau, gan ychwanegu fod ystod eang o weithgareddau llenyddol yn rhoi sylw i feirdd a llenorion o Gymru yn ystod yr ŵyl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Peter Curbishley