Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad rhyw honedig ar dren ger Abertawe

Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad rhyw honedig ar drên ger Abertawe

NS4C 16/03/2023

Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sy’n ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig ar drên rhwng Abertawe a Llanelli wedi rhyddhau delweddau o ddau ddyn yr hoffen nhw eu hadnabod.

Ar ddydd Iau 9 Chwefror am 16.02, aeth menyw ar drên Caerdydd-Abergwaun ac eistedd yn y cerbyd cefn. Am tua 17:00, ymunodd dau ddyn â'r trên yn Abertawe ac eistedd wrth ei hymyl.

Ar ôl i'r trên adael gorsaf Abertawe, dechreuodd y dynion siarad gyda'r fenyw.

Ar sawl achlysur yn ystod y cyfnod hwn cyffyrddodd y ddau ddyn â'r fenyw yn amhriodol. Gadawodd y ddau ddyn y trên yn Llanelli am tua 17:20.

Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y ddau ddyn yn y llun sydd wedi ei gyhoeddi wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.

Gofynnir i unrhyw un sy’n eu hadnabod gysylltu â HTP drwy anfon neges destun at 61016, neu drwy ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300015448.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.