Canmol dewrder gweithiwr cyngor am ei ymateb i ffrwydrad Treforys

Mae gweithiwr cyngor a dynnodd fam o adfeilion tŷ gafodd ei ddinistrio mewn ffrwydrad ger Abertawe wedi derbyn canmoliaeth am ei ddewrder.
Bu farw un dyn yn digwyddiad yn Nhreforys ddydd Llun, gyda thri arall yn gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Keith Morris, sydd yn gweithio i adran briffyrdd Cyngor Abertawe, oedd y person gyntaf i fentro i mewn i adeilad oedd wedi ei ddymchwel yn dilyn y ffrwydrad.
Fe lwyddodd i gyrraedd dynes oedd wedi ei dal ymysg yr adfeilion, gan ei thynnu allan a’i harwain allan at achubwyr eraill. Yna, fe helpodd i achub ci’r teulu o weddillion yr adeilad.
Roedd Keith, sydd wedi gweithio i Gyngor Abertawe ers 27 mlynedd, yn gyrru fan waith yn agos i ble digwyddodd y ffrwydrad, gan ddweud ei fod wedi teimlo’r tonnau sioc cyn gweld rwbel yn disgyn ar y ffordd o’i flaen.
“Neidiais allan o’r fan ac roeddwn i’n gallu clywed gweiddi a sgrechian o’r tu fewn,” dywedodd.
"Pan es i fewn i’r tŷ, roeddwn i ar ‘autopilot’. Doeddwn i ddim yn gwybod be oeddwn i’n mynd i weld. Dw i’n teimlo gymaint dros y teulu achos doedd dim byd ar ôl yno – cafodd y tŷ ei ddinistrio. Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl mai eu tŷ nhw oedd ar ben y teras, ond dywedodd rhywun wrthaf mai’r tŷ drws nesaf oedd ar y pen, ond ei fod wedi mynd yn gyfan gwbl.”
Nos Fercher, fe gysylltodd aelod o’r teulu i ddiolch i Keith am yr hyn yr oedd wedi ei wneud.
Ychwanegodd Keith: “I hi ddiolch i mi, roedd hynny’n golygu popeth"
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Roedd hwn yn ddigwyddiad erchyll ac fe hoffwn estyn fy nghydymdeimlad at bawb gafodd eu heffeithio.
“Ers y drychineb ddydd Llun, rydw i wedi clywed sawl stori am ddewrder y bobl oedd yno ac fe hoffwn ddiolch i Keith, a phawb arall, gan gynnwys y gwasanaethau argyfwng, am ymateb mor gyflym.
"Fel cyngor, rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i gefnogi pawb a gafodd eu heffeithio, ac mi fyddwn ni’n parhau am ba mor hir ag sydd angen.”
Apêl frys
Yn y cyfamser mae apêl frys wedi cael ei lansio ar gyfer aelwydydd sydd wedi eu heffeithio yn dilyn y ffrwydrad dinistriol.
Mae nifer fawr o berchnogion tai cyfagos yn parhau i fod heb fynediad i’w cartrefi, ac mae Cyngor Abertawe yn annog pobl i roi rhoddion ac arian i’r apêl.
Fe fyddai unrhyw roddion yn cael eu darparu i bobl sydd efallai'n gorfod prynu eitemau brys yn lle'r rhai a gafodd eu difrodi neu eu dinistrio, ac i gefnogi costau ychwanegol yn y tymor hir.
Dywedodd Amanda Carr o Gyngor Abertawe: "Mae ein meddyliau gyda'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy yn Nhreforys yr wythnos hon, rydym mor falch o'r sefydliadau, yr ymatebwyr brys a'r unigolion hynny yn y gymuned sydd wedi camu ymlaen i ddarparu cymorth di-oed yn eu cymuned.
"Rydym yn lansio'r apêl hon i ategu'r ymdrechion gwych sydd eisoes ar waith yn lleol, a byddwn yn cysylltu â sefydliadau ar lawr gwlad i esbonio sut gallant atgyfeirio pobl am gymorth ariannol dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf."