Rhybudd i deithwyr yng Nghymru yn sgil rhagor o streiciau tren

Mae yna rybudd y gallai teithwyr yng Nghymru wynebu oedi ar rai gwasanaethau trên ddydd Sadwrn wrth gwmnïau rheilffyrdd gynnal rhagor o streiciau.
Fe fydd aelodau'r Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) o 14 o gwmnïau trenau yn cynnal gweithred ddiwydiannol.
Daw hyn wrth i'r anghydfod hirfaith dros gyflogau ac amodau gweithio barhau.
Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r weithred ac fe wnaeth yr undeb RMT ohirio streiciau ar wasanaethau Network Rail, mae rhybuddion yn parhau i deithwyr wirio gwasanaethau cyn cychwyn ddydd Sadwrn.
Fe fydd rhai newidiadau i amserlen Trafnidiaeth Cymru, gyda rhai gwasanaethau yn debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r ffaith y bydd cwtogi sylweddol iawn wedi bod ar amserlenni gweithredwyr eraill.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Bydd 14 cwmni trên arall yn parhau i gynnal gweithredu diwydiannol yn ôl y trefniant gwreiddiol. Bydd hyn yn cynnwys staff gorsafoedd sy'n gyfrifol am rolau gweithredol allweddol megis anfon trenau.
"O ganlyniad, allwn ni ddim darparu rhai gwasanaethau ar adegau penodol i orsafoedd a reolir gan y gweithredwyr a fydd yn cael eu heffeithio.”
Newidiadau i'r amserlen:
- Ni fydd gwasanaethau rhwng Caer a Lerpwl yn rhedeg.
- Ni fydd gwasanaethau yn galw yn Wilmslow.
- Bydd gwasanaethau sy'n galw yn Stockport yn rhai gollwng i lawr yn unig tuag at Fanceinion ac yn wasanaeth codi yn unig i gyfeiriad Crewe.
- Cyn 09:15 ac ar ôl 21:15 - bydd gwasanaethau rhwng De Cymru a Cheltenham yn dod i ben yn Lydney
- Cyn 07:00 ac ar ôl 19:00 - bydd gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Manceinion yn dod i ben yng Nghaer.
- Bydd gwasanaethau ar Reilffordd y Gororau yn dod i ben yn Amwythig.
- Bydd gwasanaethau i Birmingham International yn dod i ben yn Birmingham New Street.