Newyddion S4C

Un ymhob 20 pont ar ffyrdd Cymru 'o dan y safon'

17/03/2023
pont

Mae un ym mhob ugain pont sydd ar ffyrdd Cymru yn is-safonol, yn ôl ffigyrau diweddar. 

Fe wnaeth awdurdodau lleol ganfod fod 3,090 pont ym Mhrydain yn 'is-safonol' erbyn diwedd y llynedd, yn ôl yr RAC Foundation. 

Mae hyn yn golygu na all un o bob 24 pont ym Mhrydain gario’r cerbydau trymaf, gan gynnwys 5% o'r pontydd sydd at ffyrdd Cymru. 

Yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22, fe wnaeth cynghorau gofnodi 14 o bontydd oedd wedi cwympo yn rhannol.

Roedd y rhain yn awdurdodau lleol Conwy, Casnewydd, Sir Aberdeen, Barnet, Sir Durham, Sir Gaerhirfryn, Na h-Eileanan an Iar, Sir Amwythig, Tower Hamlets a Sir Warwick.

Y deg cyngor yng Nghymru gyda'r nifer uchaf o bontydd is-safonol oedd Conwy, Sir Gaerfyrddin a Phowys, Sir Fynwy, Gwynedd, Abertawe, Caerdydd, Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen. 

O'r nifer o bontydd yng Nghonwy, roedd 57 ohonynt yn is-safonol, sef 21%. 

'Maint yr her'

Dywedodd cyfarwyddwr RAC Foundation, Steve Gooding, fod yr "astudiaeth ddiweddaraf yn dangos maint yr her sy'n wynebu awdurdodau lleol er mwyn ceisio amddiffyn seilwaith hanfodol ffyrdd yr ydym ni'n dibynnu arnynt gyda'r pwysau enfawr ar gyllid ac adnoddau."

Dywed yr adroddiad fod rhai yn 'is-safonol' oherwydd eu bod wedi cael eu hadeiladu ar gyfer safonau dylunio cynharach  tra bod rhai eraill wedi dirywio yn sgil eu hoedran a faint y maen nhw wedi cael eu defnyddio. 

Mae awdurdodau lleol yn gobeithio y bydd 2,506 o'r pontydd sydd ar hyn o bryd yn is-safonol yn y pen draw yn gweithredu yn ôl i gapasiti cario llawn.

Ond mae cyfyngiadau cyllid yn golygu mai dim ond 387 fydd yn derbyn y gwaith angenrheidiol yn y bum mlynedd nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.