Disgyblu tri aelod o gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru 'am ymddwyn yn amhriodol'

Wedi i Undeb Rygbi Cymru gael ei siglo gan honiadau o fwlio a misogynistiaeth, gall rhaglen Newyddion S4C ddatgelu bod y corff sy'n llywodraethu pêl-droed yng Nghymru wedi disgyblu tri aelod yn y 10 mis diwethaf am ymddwyn yn amhriodol.
Tri aelod gwrywaidd o gyngor y Gymdeithas sydd wedi cael gwaharddiad.
Ynghyd â 33 aelod arall, maen nhw'n ffurfio "prif gorff" Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd wedi ei ethol gan glybiau, adrannau a chymdeithasau ardal ac yn cynrychioli buddiannau'r cyrff o fewn y gymdeithas.
Mae'r honiadau yn cynnwys rhagfarn rhyw ('sexism') a misogynistiaeth; torri cyfrinachedd a gwawdio cywirdeb gwleidyddol yn gyhoeddus.
'Cymryd camau cadarn'
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad yw hi'n "derbyn unrhyw achos o dorri rheolau a chanllawiau" a'i bod yn "cymryd camau cadarn i sicrhau sancsiynau addas.
Wedi i raglen BBC Wales Investigates ddatgelu honiadau o fisogynistiaeth a gwahaniaethu ar sail rhyw o fewn Undeb Rygbi Cymru, mae'r Undeb wedi ei gyhuddo o fod yn araf i ymateb i bryderon.
Mae'n ymddangos i'r Gymdeithas Bêl-droed ymateb yn gadarn i gwynion tebyg dros y misoedd diwethaf.
Cafodd dau o'r achosion eu cyfeirio at gorff annibynnol 'Sport Resolutions'. Penderfynwyd bod yr achos arall yn llai difrifol - deliwyd â hwnnw yn fewnol.
Mae cyn-lywydd y Gymdeithas Bêl-droed, Phil Pritchard, yn un o'r dynion sydd wedi ei wahardd ar hyn o bryd. Sail y gwaharddiad yn ei erbyn yw sylwadau a wnaethpwyd mewn cinio cyn gem gafodd eu dyfarnu fel rhai misogynystaidd oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Pan ofynnodd Newyddion S4C am ymateb gan Mr Pritchard, ymatebodd yn chwyrn.
Gwadodd wneud unrhyw sylwadau sarhaus, gan ddweud iddo gyfaddef i'r honiad gan y byddai talu am gynrychiolaeth gyfreithiol yn y tribiwnlys annibynnol "wedi costio £12,000 mewn costau cyfreithiol."
'Digonedd o banter'
Dywedodd Mr Pritchard "Mae yna awyrgylch hwyliog mewn digwyddiadau cyn gemau, gyda digonedd o banter."
Dywedodd mai'r "peth diwethaf roedd e am ei wneud" oedd achosi pryder a gofid i unrhyw un, gan ddweud ei fod yn "cael hwyl a sbri pan gerddodd y fenyw ifanc yma mewn i'r ystafell. Mae'n rhaid iddi fod wedi camddehongli rhywbeth.
"Roedd tystion ar yr un bwrdd â fi oedd yn dweud nad oedd hyn wedi digwydd.
"Yr unig reswm i fi gyfaddef oedd y byddai wedi costio'n ddrud i fi fel arall."
Mae'r cynghorwr oes Ron Bridges hefyd wedi ei wahardd ar hyn o bryd, am dorri ymddiriedaeth. Cafodd ei achos yntau hefyd ei gyfeirio at gorff 'Sport Resolutions'.
Pan gysylltodd Newyddion S4C â Mr Bridges, cyfaddefodd iddo dorri'r rheolau, drwy roi manylion tîm oedd i fod dan embargo i'w fab aeth ati i bostio'r wybodaeth ar dudalen Facebook boblogaidd.
"Alla'i ddim cwyno am y gwaharddiad na fy nhriniaeth gan y gymdeithas" meddai Mr Bridges.
"Fe dorrais i'r rheolau ac felly rwy'i wedi fy ngwahardd fel aelod o gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ond dwi'n dal i fod yn weithgar o ran y gêm ar lawr gwlad".
Mae cynrychiolydd De Cymru Huw Jones nawr nôl yn ei rôl fel cynghorydd wedi i'w waharddiad ddod i ben.
Mae Newyddion S4C yn deall bod y gymdeithas wedi ystyried ei achos i fod yn un llai difrifol ac felly wedi delio â'r mater yn fewnol. Roedd yn ymwneud â neges ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn dyfynnu cân am gyn-chwaraewr Cymru, Nathan Blake, ac yn gwneud hwyl am ben y defnydd o ragenwau a chywirdeb gwleidyddol.
Dyfarnwyd hynny'n amhriodol gan y Gymdeithas.
'Difrifoldeb llwyr'
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn "methu gwneud sylw ar achosion unigol, ond eu bod yn ystyried unrhyw fater disgyblu yn ymwneud â'r Cyngor gyda difrifoldeb llwyr" a bod ganddi "brosesau a gweithdrefnau yn ei rheolau a chanllawiau sydd yn penderfynu sut mae delio ag achosion o'r fath".
"Yn dibynnu ar natur yr honiad, byddwn naill ai yn ymdrin ag ef yn fewnol, neu os yn fater mwy difrifol, byddwn yn ei gyfeirio at ganolwr annibynnol."
Bydd etholiadau i gyngor y gymdeithas yn cael eu cynnal yn yr haf eleni.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, y llynedd, bod "sicrhau cyfartaledd, amrywiaeth a bod pêl-droed yng Nghymru yn gynhwysol yn flaenoriaeth".
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans