Matthew Rhys a Caryl Parry Jones yn lansio drama gerdd newydd Cwmni Theatr yr Urdd

Matthew Rhys a Caryl Parri Jones

Bydd yr actor Matthew Rhys a’r gantores Caryl Parry Jones yn lansio drama gerdd newydd Cwmni Theatr yr Urdd ddydd Iau yn Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd.

Calon fydd cynhyrchiad mwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ers iddo ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y mudiad yn 2022.

Fel rhan o'r lansiad bydd Matthew Rhys yn rhannu ei brofiadau gyda’r Urdd ac yn holi Caryl Parry Jones am y broses o greu’r ddrama gerdd.

Yn cydweithio gyda hi ar Calon fydd y gantores Non Parry; y coreograffydd Elan Isaac a’r gyflwynwraig Miriam Isaac, sef dwy o ferched Caryl Parry Jones.

Mae disgwyl i gast a chriw o dros 100 o bobl ifanc rhwng 15 a 25 oed gymryd rhan yn y sioe yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru fis Awst 2026. 

Yn ogystal â pherfformio bydd cyfle i bobl ifanc weithio ar bob elfen o’r gwaith llwyfannu, o’r gwaith technegol i gynhyrchu, gwisgoedd a choluro. 

Byddant yn cael mentora trwy’r broses o greu’r sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.

'Effaith bellgyrhaeddol'

Dywedodd Matthew Rhys, sy'n dod yn wreiddiol o Gaerdydd, fod profiadau celfyddydol yn cael effaith "bellgyrhaeddol".

"Fe roddodd yr Urdd sylfaen anhygoel i fi fel actor ifanc - y llwyfan cyntaf, yr hyder i berfformio, a’r cyfle i ddysgu trwy wneud," meddai.

"Er nad oes modd mesur effaith profiadau celfyddydol ar lesiant plant a phobl ifanc, galla i ddweud â sicrwydd ei fod yn bellgyrhaeddol.

"Yn yr oes sydd ohoni mae cyfleoedd fel y rhai sy'n cael eu cynnig gan Gwmni Theatr yr Urdd yn medru bod yn brin. 

"Mi ddylai’r celfyddydau fod yn agored i bawb, felly diolch i’r Urdd am alluogi mwy nag erioed i gael profiadau amhrisiadwy fel hyn."

Daw'r cynhyrchiad yn sgil buddsoddiad o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, fod cyfle o'r fath yn "agor y drws" i'r celfyddydau.

"Mae’r Urdd yn gweithio’n galed i rymuso pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg gyda hyder yn eu bywydau bob dydd," meddai.

"Mae’r cyfleoedd creadigol a pherfformio y mae’r Urdd yn eu cynnig, fel cynhyrchiad Calon, yn ffordd wych o feithrin doniau, hyder a chysylltiad diwylliannol."

Ychwanegodd ei fod yn falch bod y llywodraeth yn parhau i gefnogi mentrau sy’n "agor y drws i brofiadau celfyddydol o safon" i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r Urdd yn croesawu ceisiadau gan unigolion 15-25 oed i ymuno â’r cast neu’r tîm cynhyrchu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.