Trump yn arwyddo mesur i orchymun cyhoeddi dogfennau Epstein
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi ddydd Mercher ei fod wedi arwyddo mesur yn gorfodi cyhoeddi dogfennau yn ymwneud â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Bydd yn golygu rhyddhau’r holl ddogfennau, negeseuon a deunyddiau ymchwiliadol sy’n gysylltiedig â’r pedoffeil Jeffrey Epstein o fewn 30 diwrnod.
Roedd yn newid safbwynt gan yr Arlywydd oedd wedi cefnogi galwadau i beidio rhyddhau'r dogfennau yn y gorffennol.
Roedd dioddefwyr Epstein wedi galw ar y ddwy siambr i ryddhau’r ffeiliau.
Fe bleidleisiodd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn ysgubol o blaid y mesur, 427 i 1, ddydd Mawrth.
Wrth siarad nos Lun, dywedodd Trump nad oedd gan y Gweriniaethwyr “ddim i’w wneud ag Epstein”.
“Mae’n broblem i’r Democratiaid mewn gwirionedd,” meddai. “Roedd y Democratiaid yn ffrindiau i Epstein, pob un ohonyn nhw.”
Dywedodd un o awduron y mesur, y Cyngreswr Gweriniaethol Thomas Massie, fod ganddo bryderon ynghylch rhai ffeiliau’n cael eu dal yn ôl.
“Rwy’n pryderu bod [Trump] yn agor cyfres o ymchwiliadau, ac rwy’n credu y gallent fod yn ceisio defnyddio’r ymchwiliadau hynny fel sail i beidio â rhyddhau’r ffeiliau,” meddai.
“Dyna fy mhryder i.”
‘Naratif ffug’
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Democratiaid sy’n aelodau o bwyllgor craffu Tŷ’r Cynrychiolwyr gyfres o e-byst oedd yn cynnwys rhai rhwng Epstein, Ghislaine Maxwell ac eraill.
Mae Maxwell yn y carchar am fasnachu pobl ar gyfer rhyw ac fe wnaeth Epstein ladd ei hun yn 2019 tra yn y carchar.
Mae’r e-byst gan Jeffrey Epstein yn dweud bod Trump “yn gwybod am y merched, ac wedi gofyn i Ghislaine stopio”. Nid yw’n eglur at beth mae hynny’n cyfeirio.
Doedd yr Arlywydd Trump heb dderbyn nac anfon unrhyw un o’r negeseuon, a oedd yn dyddio’n bennaf i’r cyfnod cyn iddo fod yn arlywydd.
Nid yw Donald Trump wedi cael ei gyhuddo o unrhyw gamwedd troseddol mewn cysylltiad ag Epstein na Maxwell.
Fe ddywedodd y Gweriniaethwyr fod y Democratiaid wedi ceisio “creu naratif ffug i danseilio’r Arlywydd Trump” a’u bod wedi “dewis a dethol” dogfennau i’w rhyddhau.